Emlyn (cantref): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q5372669 |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Emlyn''' yn [[cantref|gantref]] yng ngogledd [[teyrnas Dyfed]]. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng [[Sir Benfro]] a [[Sir Gaerfyrddin]]. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o [[cwmwd|gwmwd]] annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach. |
|||
Lleolir Emlyn i'r de o [[afon Teifi]] yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref [[Is Aeron]], i'r dwyrain mae'n ffinio â'r [[Cantref Mawr]], i'r de â chwmwd [[Elfed (cwmwd)|Elfed]], ac i'r gorllewin â chantref [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]]. |
Lleolir Emlyn i'r de o [[afon Teifi]] yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref [[Is Aeron]], i'r dwyrain mae'n ffinio â'r [[Cantref Mawr]], i'r de â chwmwd [[Elfed (cwmwd)|Elfed]], ac i'r gorllewin â chantref [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]]. |
Golygiad diweddaraf yn ôl 23:36, 16 Ionawr 2018
Roedd Emlyn yn gantref yng ngogledd teyrnas Dyfed. Heddiw mae ei diriogaeth yn cael ei rhannu rhwng Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae ei statws cynnar yn ansicr ac mae'n bosibl ei bod yn enghraifft o gwmwd annibynnol a ddaeth yn gantref yn ddiweddarach.
Lleolir Emlyn i'r de o afon Teifi yn ne-orllewin Cymru. I'r gogledd, dros afon Teifi, mae'r cantref yn ffinio â chantref Is Aeron, i'r dwyrain mae'n ffinio â'r Cantref Mawr, i'r de â chwmwd Elfed, ac i'r gorllewin â chantref Cemais.
Rhywbryd yn yr Oesoedd Canol, rhanwyd y cantref yn ddau gwmwd gydag afon Cuch yn eu gwahanu:
Eglwys Llawddog, Cenarth, oedd canolfan eglwysig bwysicaf y cantref. Mae ei ganolfan wleidyddol cynnar yn anhysbys. Yn ddiweddarach tyfodd Castellnewydd Emlyn yn ganolfan bwysig yng nghyfnod y Normaniaid.
Cysylltir y cantref â'r Mabinogi : mae Glyn Cuch, lle mae Pwyll yn cwrdd ag Arawn brenin Annwn, yn gorwedd yng nghwmwd Emlyn Is Cuch.