Bologna: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Dinas yng ngogledd [[yr Eidal]] yw '''Bologna''' ([[Lladin]] ''Bononia''). Hi yw prifddinas talaith [[Emilia-Romagna]], rhwng [[Afon Po]] a mynyddoedd yr [[Appenninau]]. |
Dinas yng ngogledd [[yr Eidal]] yw '''Bologna''' ([[Lladin]] ''Bononia''). Hi yw prifddinas talaith [[Emilia-Romagna]], rhwng [[Afon Po]] a mynyddoedd yr [[Appenninau]]. |
||
Sefydlwyd y ddinas gan yr [[Etrwsciaid]] fel ''Felsina'' oddeutu'r flwyddyn [[534 CC]]. Yn y |
Sefydlwyd y ddinas gan yr [[Etrwsciaid]] fel ''Felsina'' oddeutu'r flwyddyn [[534 CC]]. Yn y 4g CC, concrwyd y ddinas gan lwyth [[Y Celtiaid|Celtaidd]] y [[Boii]], a chafodd yr enw ''Bononia''. Daeth yn ''colonia'' Rhufeinig tua [[189 CC]], ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y [[Via Aemilia]] yn [[187 CC]]. Daeth yn ''municipium'' yn [[88 CC]], ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal. |
||
Yn [[728]], cipiwyd y ddinas gan [[Liutprand, brenin y Lombardiaid|Liutprand]], brenin y [[Lombardiaid]]. Yn [[1088]], sefydlwyd Prifysgol Bologna, ''Alma Mater Studiorum'', y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol. |
Yn [[728]], cipiwyd y ddinas gan [[Liutprand, brenin y Lombardiaid|Liutprand]], brenin y [[Lombardiaid]]. Yn [[1088]], sefydlwyd Prifysgol Bologna, ''Alma Mater Studiorum'', y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol. |
Fersiwn yn ôl 03:50, 14 Ionawr 2018
Dinas yng ngogledd yr Eidal yw Bologna (Lladin Bononia). Hi yw prifddinas talaith Emilia-Romagna, rhwng Afon Po a mynyddoedd yr Appenninau.
Sefydlwyd y ddinas gan yr Etrwsciaid fel Felsina oddeutu'r flwyddyn 534 CC. Yn y 4g CC, concrwyd y ddinas gan lwyth Celtaidd y Boii, a chafodd yr enw Bononia. Daeth yn colonia Rhufeinig tua 189 CC, ac ychwanegwyd at bwysigrwydd y ddinas pan adeiladwyd y Via Aemilia yn 187 CC. Daeth yn municipium yn 88 CC, ac am gyfnod fe'i hystyrid yn ail ddinas yr Eidal.
Yn 728, cipiwyd y ddinas gan Liutprand, brenin y Lombardiaid. Yn 1088, sefydlwyd Prifysgol Bologna, Alma Mater Studiorum, y brifysgol hynaf yn y byd gorllewinol.
Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 373,170.
Adeiladau a chofadeiladau
- Arca di San Domenico
- Basilica San Petronio
- Collegio di Spagna
- Palazzo d'Accursio
- Porta Saragozza
- Stadio Renato Dall'Ara
- Teatro Comunale di Bologna
Pobl o Fologna
- Domenichino (1581 - 1641), arlunydd
- Maria Gaetana Agnesi (1718-1799), mathemategydd
- Guglielmo Marconi (1874 - 1937), peiriannydd
- Ottorino Respighi (1879 - 1936), cyfansoddwr
- Rossano Brazzi (1916-1994), actor