Y Bontnewydd-ar-Wy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Pentref bychan ym Mhowys, Cymru, sy'n gorwedd ar lan Afon Gwy yw '''Bontnewydd ar Wy''' (Saesneg: ''Newbridge-on-Wye''). Mae'n gorwedd ar yr A470 tua h...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 00:08, 18 Tachwedd 2008

Pentref bychan ym Mhowys, Cymru, sy'n gorwedd ar lan Afon Gwy yw Bontnewydd ar Wy (Saesneg: Newbridge-on-Wye). Mae'n gorwedd ar yr A470 tua hanner ffordd rhwng Rhaeadr Gwy i'r gogledd a Llanfair-ym-Muallt i'r de.

Mae'r pentref ar groesffordd leol bwysig, gyda'r A470 yn cwrdd â'r B4358 sy'n cysylltu Llandrindod, i'r gogledd-ddwyrain, a Beulah ar yr A483 i'r de-orllewin.

Roedd y pentref yn gorwedd ar un o lwybrau mawr y porthmyn. Hyd 1962 roedd ganddi orsaf ar gyn reilffordd Canolbarth Cymru hefyd.

Ceir ysgol gynradd yn y pentref sy'n cael ei rhedeg gan yr Eglwys yng Nghymru. Mae tua 80 o ddisgyblion yn ei mynychu.[1]

Cyfeiriadau