Tinitws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4: Llinell 4:
Mae ymadroddion Cymraeg eraill am tinitws yn cynnwys:
Mae ymadroddion Cymraeg eraill am tinitws yn cynnwys:
* Y glust soniarus<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgol term ymchwil = soniarus] adalwyd 13 Ionawr 2018</ref>
* Y glust soniarus<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html Geiriadur y Brifysgol term ymchwil = soniarus] adalwyd 13 Ionawr 2018</ref>
* Y Gloch fach<ref>[http://geiriaduracademi.org/ Geiriadur yr Academi term ymchwil = tinnitus] adalwyd 13 Ionawr 2018</ref>
* Y gloch fach<ref>[http://geiriaduracademi.org/ Geiriadur yr Academi term ymchwil = tinnitus] adalwyd 13 Ionawr 2018</ref>
* Merwino yn y glust
* Merwino yn y glust
* Tingo'r glust <ref>Daniel Silvan Evans ''An English and Welsh Dictionary'' (1847-1858)</ref>
* Tingo'r glust <ref>Daniel Silvan Evans ''An English and Welsh Dictionary'' (1847-1858)</ref>

Fersiwn yn ôl 00:47, 14 Ionawr 2018

Mae tinitws yn symptom meddygol lle mae unigolyn yn clywed seiniau sy'n deillio o fewn y corff, yn hytrach nag o ffynhonnell allanol. Nid cyflwr iechyd mohono ond symptom o gyflyrau eraill gan gynnwys trymder clyw, trawma i'r pen, haint yn y glust a gormodedd o wêr yn y glust[1].

Enwau Cymraeg

Mae ymadroddion Cymraeg eraill am tinitws yn cynnwys:

  • Y glust soniarus[2]
  • Y gloch fach[3]
  • Merwino yn y glust
  • Tingo'r glust [4]
  • Canu yn y glust

Symptomau cyffredin

Er bod tinitws yn cael ei alw'n Gymraeg a'i disgrifio mewn ieithoedd eraill yn canu yn y glust gall y sawl sy'n byw efo'r cyflwr clywed sawl sŵn, gan gynnwys sïo, grwnian, hymian, mwmian, crensian, llifanu, sisiad, hisian, chwythu a chwibanu. Bydd rhai pobl yn clywed seiniau sy'n debyg i gerddoriaeth neu ganu, ac mae eraill yn clywed synau sy'n curo mewn amser gyda'u pwls (tinitws trawiadol); bydd eraill yn clywed lleisiau aneglur. Gallai'r sŵn bod yn feddal neu'n uchel, a gall y sain bod yn uchel neu'n isel. Bydd rhai pobl yn clywed y sŵn mewn un glust yn unig, bydd eraill yn ei glywed yn y naill glust a'r llall ar wahanol adegau ac eraill eto yn ei glywed yn y ddwy glust ar yr un pryd[5].

Yn anaml bydd tinitws yn symptom o gyflwr gwael difrifol. Yn y rhan fwyaf o bobl mae'n symptom sy'n para am ddim ond ychydig o amser ar y tro ac sy'n dŵad a mynd. Ond mewn rhai cleifion gall bod yn barhaus gan gael effaith andwyol ar sylwedd bywyd pobl. Gall achosion difrifol fod yn ofidus iawn, gan effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, ac yn achosi problemau megis anhunedd ac iselder ysbryd.

Be sy'n achosi tinitws?

Nid yw'n gwbl eglur yn union beth sy'n achosi tinitws, ond credir ei fod yn broblem gyda sut mae'r glust yn clywed sain a sut mae'r ymennydd yn ei dehongli.

Mae llawer o achosion yn gysylltiedig â cholli clyw sy'n cael achosi gan ddifrod i'r glust fewnol. Mae sŵn yn pasio o'r glust allanol i mewn i'r glust fewnol. Mae'r clust mewnol yn cynnwys y cochlea a'r nerf clywol. Mae'r cochlea yn diwb troellog, sy'n cynnwys nifer fawr o gelloedd gwallt sensitif. Mae'r nerf clywedol yn trosglwyddo signalau sain i'r ymennydd.

Os bydd rhan o'r cochlea yn cael ei ddifrodi, bydd yn methu danfon gwybodaeth gyflawn i'r ymennydd. Gall yr ymennydd wedyn fynd ati i "chwilio" am arwyddion o rannau o'r cochlea sy'n dal i weithio. Gallai'r arwyddion hyn wedyn gael eu gorgynrychioli yn yr ymennydd, a gallai hyn achosi synau tinitws.

Mewn pobl hyn, mae difrod i'r cochlea yn aml yn digwydd yn naturiol gydag oedran. Mewn pobl iau, gellir ei achosi trwy wrando ar ormodedd o sŵn uchel.

Achosion eraill

Yn ogystal â difrod y clust mewnol, mae nifer o achosion posib eraill o dinitws. Gan gynnwys:

Triniaethau

Bydd bron pawb yn profi tinitws yn achlysurol am gyfnodau byr iawn; yn y rhan fwyaf o achosion does dim angen gwneud dim ond gadael i'r profiad mynd heibio. Pan fo tinitws yn cael ei achosi gan gyflwr gellir ei drin, trin y cyflwr bydd ei angen yn hytrach na cheisio trin y tinitws. Er enghraifft rhoi gwrthfiotig i wella haint yn y glust neu lanhau gormodedd o gŵyr o'r glust.

Y driniaeth sydd i'w gweld i weithio gorau ar gyfer tinitws yw math o gwnsela o'r enw therapi ymddygiadol gwybyddol. Mae'n lleihau faint o straen y mae'r rhai â thinitws yn teimlo. Mae therapi derbyn ac ymrwymiad hefyd yn dangos addewid wrth drin tinitws. Gall technegau ymlacio hefyd profi'n ddefnyddiol.

Mae peiriannau masgio tinitws yn ystod o ddyfeisiadau sy'n creu sŵn gwyn syml sy'n cael eu defnyddio i ychwanegu sain naturiol neu artiffisial i mewn i amgylchedd y sawl sy'n dioddef er mwyn orchuddio'r canu[7].

Cyfeiriadau

  1. NHS UK Tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  2. Geiriadur y Brifysgol term ymchwil = soniarus adalwyd 13 Ionawr 2018
  3. Geiriadur yr Academi term ymchwil = tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  4. Daniel Silvan Evans An English and Welsh Dictionary (1847-1858)
  5. National Institute on Deafness and Other Communication Disorders: Tinnitus adalwyd 13 Ionawr 2018
  6. MedlinePlus:Tinnitus
  7. Vernon J. (1976) "The use of masking for relief of tinnitus". Yn: Silverstein H, Norrell H, gol. Neurological Surgery of the Ear: Volume II. Birmingham: Aesculapius Publishing, 104–118

Rhybudd Cyngor Meddygol


Cyngor meddygol

Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir.

Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall!