Nanhyfer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
+
cat
Llinell 10: Llinell 10:


[[Categori:Pentrefi Sir Benfro]]
[[Categori:Pentrefi Sir Benfro]]
[[Categori:Croesau Celtaidd]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Oes y Cerrig Newydd yng Nghymru]]



[[ca:Nanhyfer]]
[[ca:Nanhyfer]]

Fersiwn yn ôl 08:07, 15 Tachwedd 2008

Pentref bychan yn Sir Benfro yw Nanhyfer neu Nyfer (Saesneg: Nevern). Saif gerllaw Afon Nyfer gerllaw bryniau Preseli.

Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Brynach; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y 6ed ganrif. Yn y fynwent mae Croes Geltaidd yn dyddio o'r 10fed ganrif neu ddechrau'r 11eg ganrif. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif Ladin "VITALIANI EMERTO" ac mewn Ogam "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r 5ed neu'r 6ed ganrif. Roedd yr hynafiaethydd George Owen yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.

Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion Castell Nanhyfer, a adeiladwyd gan Robert fitz Martin tua 1108. Dinistriwyd y castell gan y Cynry yn 1136. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch Rhys ap Gruffydd, ond tua 1189 gyrrodd Rhys ef ohono.

Mae cromlech Pentre Ifan rhyw ddwy filltir o'r pentref.