Dinas Emrys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
lluniau |
B →Y tŵr |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
==Y tŵr== |
==Y tŵr== |
||
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig |
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan [[Llywelyn Fawr]] yn gynnar yn y [[13eg ganrif]] neu, yn fwy tebygol, gan [[Owain Gwynedd]] tua diwedd y [[12fed ganrif]]. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel [[Castell Deudraeth]]. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd. |
||
==Y dreigiau== |
==Y dreigiau== |
Fersiwn yn ôl 23:37, 13 Tachwedd 2008
Y mae Dinas Emrys yn safle hen gastell a bryngaer yn ne Eryri, Gwynedd. Mae'n un o'r cynharaf o'r cestyll Cymreig. Saif i'r gorllewin o'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert, tua milltir i'r gogledd-orllewin o'r pentref olaf.
Lleoliad
Mae'r hen amddiffynfa ar ben bryn syrth a choediog, sy'n mwynhau golygfa eang i lawr i gyfeiriad Beddgelert ac i fyny i Lyn Dinas a Nant Gwynant. I'r dwyrain mae ucheldir creigiog y Moelwynion, rhwng Croesor a Blaenau Ffestiniog, ac yn gefn iddi dros gwm unig Afon y Cwm mae llethrau gwyllt yr Aran (2451'), sy'n rhan o gadwyn yr Wyddfa.
Y tŵr
Ar y bryn mae gweddillion tŵr cerrig hirsgwar i'w gweld. Credir ei fod wedi ei godi naill ai gan Llywelyn Fawr yn gynnar yn y 13eg ganrif neu, yn fwy tebygol, gan Owain Gwynedd tua diwedd y 12fed ganrif. Mae'n nodweddiadol o'r adeiladwaith castell a welir mewn llefydd eraill yn y gogledd yn yr un cyfnod, fel Castell Deudraeth. Mae adfeilion mur amddiffynol i'w gweld hefyd.
Y dreigiau
Mae gwaith yr archaeolegwyr yn dangos fod amddiffynfa ar Ddinas Emrys yn y cyfnod Rhufeinig a'r Oesoedd Canol cynnar. Yr amddiffynfa honno yw lleoliad yr ymladd dan seiliau'r castell rhwng y ddwy ddraig, un yn goch a'r llall yn wyn, yn chwedl Lludd a Llefelys. Mae Sieffre o Fynwy yn adrodd sut y bu i Fyrddin eu dangos i'r brenin Gwrtheyrn gan esbonio eu bod yn cynrychioli y Brythoniaid a'r Saeson yn eu gornest am sofraniaeth Ynys Prydain. Am unwaith mae Sieffre, sy'n ffugiwr heb ei ail, yn dilyn traddodiad Cymreig dilys a geir am y tro cyntaf yng ngwaith Nennius, yr Historia Brittonum (9fed ganrif). Mae Nennius a Sieffre yn dweud bod y dreigiau'n cwffio dan bwll tanddaearol ac felly'n peri i'r castell roedd y brenin yn ceisio codi gwympo bob tro. Heddiw mae'r pwll yno o hyd.
Llyfryddiaeth
- Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
- Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)
Gweler hefyd
- Gŵr Blewog, un o chwedlau gwerin yr ardal.
- Owain fab Macsen Wledig
- Y Ddraig Goch