Epig Gilgamesh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: et:Gilgameši eepos [r5545]
Kjetil r (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 39: Llinell 39:
[[mk:Гилгамеш (еп)]]
[[mk:Гилгамеш (еп)]]
[[nl:Gilgamesjepos]]
[[nl:Gilgamesjepos]]
[[no:Gilgamesj]]
[[pl:Epos o Gilgameszu]]
[[pl:Epos o Gilgameszu]]
[[pt:Epopéia de Gilgamesh]]
[[pt:Epopéia de Gilgamesh]]

Fersiwn yn ôl 22:28, 13 Tachwedd 2008

Hanes y Dilyw ar un o'r tabledi clai sy'n cynnwys Epig Gilgamesh

Cerdd epig o Mesopotamia yw Epig Gilgamesh, sy'n un o'r gweithiau llenyddol cynharaf sydd wedi goroesi. Cred ysgolheigion fod cyfres o chwedlau a cherddi Sumeraidd am y brenin mytholegol Gilgamesh, oedd efallai yn deyrn gwirioneddol rywbryd tua'r 27ain ganrif CC., wedi ei casglu i ffurfio cerdd hirach mewn Akkadeg yn llawer diweddarach. Ceir y fersiwn lawnaf ar ddeuddeg tabled glai o lyfrgell Ashurbanipal, brenin Assyria yn y 7fed ganrif CC..

Prif bwnc y stori yw'r berthynas rhwng Gilgamesh, brenin Uruk, sydd wedi digalonni a blino ar deyrnasu, a'i gyfaill hanner-gwyllt Enkidu, a galar Gilgamesh wedi marwolaeth Enkidu. Wedi marwolaeth ei gyfaill, mae Gilgamesh yn chwilio am anfarwoldeb. Ceir cyfeiriad at Ddilyw oedd wedi boddi pawb heblaw Utnapishtim a'i wraig.