Thiamin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar, bs, ca, cs, da, de, eo, es, et, eu, fi, fo, fr, gl, he, hr, hu, is, it, ja, ko, lb, lt, mk, ms, nl, no, oc, pl, pt, ro, ru, sh, sk, sl, sq, sr, su, sv, tg, th, tr, uk, wa, zh yn newid: en
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fa:ویتامین ب۱
Llinell 38: Llinell 38:
[[et:Tiamiin]]
[[et:Tiamiin]]
[[eu:B1 bitamina]]
[[eu:B1 bitamina]]
[[fa:ویتامین ب۱]]
[[fi:Tiamiini]]
[[fi:Tiamiini]]
[[fo:Thiamin]]
[[fo:Thiamin]]

Fersiwn yn ôl 09:17, 7 Tachwedd 2008

Adnabyddir y term cemegol thiamin hefyd gan yr enwau fitamin B1 ac aneurine hydrochloride, sef teulu o foleciwlau sy'n rhannu yr un math o strwythur. Ei ffurf arferol yw fel cemegolyn di-liw gyda fformiwla gemegol o C12H17N4OS. Mae'r math hwn o thiamin yn hydoddi mewn dŵr, methanol a glyserol ond nid mewn aseton, ether, clorofform na bensen ('benzene'). Math arall o thiamin yw TTFD, sydd â nodweddion hydoddi hollol wahanol, ac yn perthyn i'r teulu hwnnw o fitaminau sy'n hydoddi mewn olew. Mae ganddo gylch pyramidin a chylch thiasol.

Yn y corff dynol, mae'n holl bwysig ar gyfer metabolism iach (o ran carbohydrad iach) ac ar gyfer y system nerfol. Gall diffyg thiamin arwain at beriberi gyda phroblemau gyda'r galon a'r nerfau yn amlygu eu hunain. Mae ychydig o ddiffyg thiamin yn rhoi symtomau megis colli pwysau, 'malaise' a dryswch.

Ffynhonnell

Mae chydig bach o thiamin i'w ddarganfod mewn llawer iawn o fwydydd. Iau ('Afu') a burum ydy ffynhonnell bwysicaf y fitamin hwn. Dyma lefydd eraill:[1]

Cyfeiriadau

  1. Combs GF. The vitamins: fundamental aspects in nutrition and health. 3rd Ed. Elsevier: Boston, 2008.