Kemper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: fa:کویمپر
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: simple:Quimper
Llinell 51: Llinell 51:
[[ro:Quimper]]
[[ro:Quimper]]
[[ru:Кемпер (город)]]
[[ru:Кемпер (город)]]
[[simple:Quimper]]
[[sl:Quimper]]
[[sl:Quimper]]
[[sv:Quimper]]
[[sv:Quimper]]

Fersiwn yn ôl 19:22, 4 Tachwedd 2008

Afon Oded yng nghanol Kemper

Tref yn Llydaw yw Kemper (Ffrangeg: Quimper; Lladin: Corspotium). Roedd y boblogaeth yn 67,127 yn 1999. Kemper yw prifddinas departamant Penn-ar-Bed, a hen brifddinas Bro Gerne.

Mae kemper yn Llydaweg yr un gair â "cymer" afon yng Nghymraeg; mae Afon Steir, Afon Oded ac Afon Jet yn cyfarfod yma. Mae hanes y dref yn mynd yn ôl i gyfnod y Rhufeiniaid. Erbyn 495 roedd y dref yn esgobaeth. Yr adeiladau mwyaf nodedig yw Eglwys Locmaria, sy'n dyddio o'r 11eg ganrif, a'r eglwys gadeiriol a adeiladwyd rhwng y 13eg ganrif a'r 16eg ganrif. Mae'r eglwys gadeiriol wedi ei chysegru i Sant Corentin, esgob cyntaf Kemper; o'i blaen ceir cerflun yn dangos Gralon, brenin Kêr-Ys, ar gefn ceffyl yn edrych i gyfeiriad ei ddinas foddedig.

Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd i dwristiaid ac yn adnabyddus am ei chrochenwaith. Mae ysgolion Diwan yn y dref.

Mae'n un o'r drefi ar lwybr pererindod y Tro Breizh.

Pobl enwog o Kemper