¿Por qué no te callas?: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Escarbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sr:¿Por qué no te callas?
Llinell 26: Llinell 26:
[[pl:¿Por qué no te callas?]]
[[pl:¿Por qué no te callas?]]
[[pt:¿Por qué no te callas?]]
[[pt:¿Por qué no te callas?]]
[[sr:¿Por qué no te callas?]]
[[uk:¿Por qué no te callas?]]
[[uk:¿Por qué no te callas?]]

Fersiwn yn ôl 03:29, 2 Tachwedd 2008

Yr Uwchgynhadledd Ibero-Americanaidd, 2007: Juan Carlos, Zapatero a Chávez yn eistedd ar y dde.

Brawddeg dywedodd Juan Carlos, brenin Sbaen, ar 10 Tachwedd 2007, i Hugo Chávez, Arlywydd Venezuela, yn Uwchgynhadledd Ibero-Americanaidd 2007 a gynhalwyd yn Santiago, Chile, oedd ¿Por qué no te callas? (Cymraeg: Pam na wnei di gau lan?). Daeth yr ymadrodd yn un boblogaidd mewn byr o dro, wrth ennill statws cwlt fel tôn galw ffonau symudol, enw parth, cystadleuaeth, crysau-T, a fideos ar YouTube.

Y digwyddiad

Dywedodd y Brenin Juan Carlos y frawddeg pan oedd Chávez yn torri ar draws araith Prif Weinidog Sbaen José Luis Rodríguez Zapatero drosodd a throsodd wrth alw rhagflaenydd y Prif Weinidog, José María Aznar, yn "ffasgydd" ac yn "llai dynol na nadroedd",[1] ac yn ei gyhuddo o gefnogi coup d'état a fethodd yn 2002 oedd â'r nod o ddymchwel Chávez o rym.

Er gwaethaf i ficroffon Chávez gael ei ddiffodd, parhaodd i dorri ar draws Prif Weinidog Rodríguez Zapatero wrth i Zapatero amddiffyn ei ragflaenydd (oedd yn wrthwynebwr gwleidyddol iddo). Cythruddwyd Chávez hefyd gan awgrymiad Rodríguez Zapatero bod angen i America Ladin atynnu mwy o gyfalaf tramor i ddelio â'i thlodi parhaol, sy'n groes i ddaliadau adain-chwith Chávez sy'n gochel buddsoddiad allanol.[2][1] Croesawyd cerydd y Brenin gyda churo dwylo gan y gynulleidfa gyffredinol.[2] Yn fuan ar ôl hyn, gadawodd y neuadd ar ôl i Arlywydd Nicaragua Daniel Ortega gyhuddo Sbaen o ymyrryd mewn etholiadau yn Nicaragua, a chwynodd am bresenoldeb cwmnïau ynni Sbaenaidd yn ei wlad. Mae'r digwyddiad yn ddigynsail, gan nad yw'r Brenin erioed wedi dangos y fath ddicter yn gyhoeddus.[3]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Shut up, Spain's king tells Chavez. BBC (10 Tachwedd, 2007). Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Padgett, Tim (12 Tachwedd, 2007). Behind the King's Rebuke to Chávez. Time. Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.
  3. (Sbaeneg) Tabar, Carmen (10 Tachwedd, 2007). Nunca se había visto al Rey tan enfadado en público. El Periódico de Catalunya. Adalwyd ar 26 Tachwedd, 2007.

Cysylltiadau allanol