C.P.D. Tref Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
manion |
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) B Wedi symud C.P.D. Prestatyn i C.P.D. Tref Prestatyn |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:54, 31 Hydref 2008
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Prestatyn | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Seasiders | ||
Sefydlwyd | tua 1930 | ||
Maes | Ffordd Bastion | ||
Rheolwr | Neil Gibson | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||
2007-2008 | 1af (Cynghrair Undebol) | ||
|
Clwb pêl-droed ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych yw C.P.D. Prestatyn. Cafodd y clwb ei ddyrchafu i Uwch Gynghrair Principality ar ddiwedd tymor 2007/2008. Enillodd y clwb y Gynghrair Undebol yn 2007/2008 mewn steil, gan orffen gyda 15 yn fwy o bwyntiau na'u gwrthwynebwyr agosaf sef y Bala - y bwlch mwyaf rhwng cyntaf ac ail ers dyrchafiad C.P.D. Porthmadog yn 2002/03.
Roedd hwn yn llwyddiant eithriadol i'r clwb yn eu hail dymor yn y Gynghrair Undebol. Er mwyn sicrhau dyrchafiad, gweithiodd criw o wirfoddolwyr bron yn ddi-dor ym Mis Mai 2008 i sicrhau fod eu cyfleusterau'n cyrraedd y safon disgwyliedig. Roedd y gwelliannau hyn yn cynnwys gosod llif-oleuadau, cynyddu'r nifer o seddi a gosod lloc i'r wasg. Mae'r gwaith hwn wedi dod â theimlad cymunedol i'r clwb sydd wedi'i adlewyrchu yn y dorf - ers iddynt gael eu dyrchafu.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o glybiau Cynghrair Cymru eraill y Gogledd-ddwyrain, polisi'r clwb yw rhoi cyfle i chwaraewyr lleol. Mae mwyafrif llethol o'r garfan yn Gymry - nifer fawr ohonynt yn dod o'r dref ei hun.