Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: gd, ka, pl, zh-classical yn tynnu: cs yn newid: ast
Llinell 18: Llinell 18:
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]
[[Categori:Llên gwerin Cymru]]


[[ast:fades]]
[[ast:Fada]]
[[bg:Фея]]
[[bg:Фея]]
[[ca:Fada]]
[[ca:Fada]]
[[cs:Víla]]
[[de:Fee]]
[[de:Fee]]
[[en:Fairy]]
[[en:Fairy]]
[[es:Hada]]
[[eo:Feo]]
[[eo:Feo]]
[[es:Hada]]
[[fi:Keijukainen]]
[[fr:Fée]]
[[fr:Fée]]
[[ko:페어리]]
[[gd:Sìthiche]]
[[he:פיה (פנטזיה)]]
[[hu:Tündér]]
[[id:Peri]]
[[id:Peri]]
[[it:Fata]]
[[it:Fata]]
[[ja:フェアリー]]
[[he:פיה (פנטזיה)]]
[[ka:ფერია]]
[[ko:페어리]]
[[lt:Fėja]]
[[lt:Fėja]]
[[hu:Tündér]]
[[nl:Fee]]
[[nl:Fee]]
[[ja:フェアリー]]
[[no:Fe (eventyr)]]
[[nn:Fe i eventyra]]
[[nn:Fe i eventyra]]
[[no:Fe (eventyr)]]
[[pl:Wróżka]]
[[pt:Fada]]
[[pt:Fada]]
[[ro:Zână]]
[[ro:Zână]]
[[ru:Фея]]
[[ru:Фея]]
[[fi:Keijukainen]]
[[sv:Fe (väsen)]]
[[sv:Fe (väsen)]]
[[tr:Peri]]
[[tr:Peri]]
[[ur:پریاں]]
[[ur:پریاں]]
[[zh:小仙子]]
[[zh:小仙子]]
[[zh-classical:精靈]]

Fersiwn yn ôl 11:05, 30 Hydref 2008

Delwedd:M.L.Williams Lady-of-the-Van-Lake.JPG
Arglwyddes Llyn y Fan Fach. Llun gan M.L.Williams.

Defnyddir yr enw Tylwyth Teg, weithiau Bendith y Mamau yn y de, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth a llên gwerin llawer gwlad, er enghraifft banshee yn Iwerddon, brownies yn yr Alban, fairies ac elves yn Lloegr, fee yn Ffrainc.

Efallai fod cysylltiad rhwng y chwedlau am y Tylwyth Teg â hen dduwiau a duwiesau'r Celtiaid. Yn ôl un fersiwn, Gwyn ap Nudd oedd eu brenin. Cysylltir hwy yn aml â llynnoedd; dywedid hefyd bod criafol yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi haearn. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru; casglwyd llawer o'r rhain gan Syr John Rhŷs, Owen Wynne Jones (Glasynys) ac eraill. Ceir nifer o themâu yn y chwedlau hyn; un yw bod y Tylwyth Teg yn cyfnewid babanod dynol am eu babanod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld â gwlad y Tylwyth Teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod bod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio ac nad oes neb yn ei adnabod bellach.

Chwedl a gysylltir â nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi un o ferched y Tylwyth Teg, ar yr amod na fyddai byth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo â haearn. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Mae sawl fersiwn o'r chwedl hon yn gysylltiedig â llynnoedd, megis Llyn y Fan Fach yn Sir Gaerfyrddin a Llyn y Dywarchen, Rhyd Ddu. Gallai'r Tylwyth Teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.

Mae'r gwaharddiad ar haearn (a halen hefyd weithiau), ynghyd â'r ffaith bod nifer o'r chwedlau yn lleoli gwlad y Tylwyth Teg dan siambrau claddu a gorseddau (bryniau isel neu hen siambrau claddu), yn arwain rhai efrydwyr i ddamcaniaethu bod y Tylwyth yn cynrychioli atgof y Celtiaid am y bobl gyn-Geltaidd, ac felly'n gysylltiad â phobloedd Oes y Cerrig.

Bendith y Mamau oedd yr enw ar y Tylwyth Teg yn y de, ac mae'n bosibl bod cysylltiad rhwng yr enw hwnnw â'r duwiesau Celtaidd triphlyg ac yn enwedig â'r duwiesau ym Mhrydain a Gâl a elwid yn Matres gan y Rhufeiniaid. Cedwir cof am y bodau hyn hefyd yn yr ymadroddion llafar "Bobl bach!" a "Bobl annwyl!" (ebychiad i fynegi syndod). Fel yn achos yr enwau eraill, dyma enghraifft hefyd o'r arfer mewn sawl diwylliant o beidio â chyfeirio at fodau arallfydol yn uniongyrchol.

Llyfryddiaeth

  • Hugh Evans, Y Tylwyth Teg (Lerpwl, 1935; 4ydd argraffiad, 1950)
  • John Owen Huws Y Tylwyth Teg (Gwasg Carreg Gwalch, 1987) ISBN 0-86381-073-X
  • Owen Wynne Jones: Straeon Glasynys, gol. Saunders Lewis (Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)