Epigram: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn ychwanegu: bg, ca, cs, de, eo, es, fi, fr, gl, hr, hu, ia, it, ja, nl, no, pl, ro, ru, sk, sl, sv, uk |
B robot yn ychwanegu: pt:Epigrama |
||
Llinell 55: | Llinell 55: | ||
[[no:Epigram]] |
[[no:Epigram]] |
||
[[pl:Epigramat]] |
[[pl:Epigramat]] |
||
[[pt:Epigrama]] |
|||
[[ro:Epigramă]] |
[[ro:Epigramă]] |
||
[[ru:Эпиграмма]] |
[[ru:Эпиграмма]] |
Fersiwn yn ôl 22:27, 29 Hydref 2008
Ffurf lenyddol gryno, yn llinell, cwpled neu bennill, sy'n traethu doethineb neu wirionedd neu gyngor buddiol ynghylch bywyd a'r byd wedi'i fynegi'n goeth, yn fachog a chofiadwy yw epigram. Gair Groeg yw epigam sydd wedi cael ei fenthyg gan sawl iaith, yn cynnwys y Gymraeg, a gan lenorion Groeg yr Henfyd y ceir yr epigramau cynharaf yn nhraddodiad llenyddol y Gorllewin. Ceir ffurfiau tebyg mewn diwylliannau eraill hefyd, e.e. yr haiku yn llenyddiaeth Siapaneg, ac mae'n ffurf lenyddol boblogaidd yn y Gymraeg ers canrifoedd.
Tyfodd yr epigram yn y Gorllewin allan o arfer y Groegiaid o lunio beddargraffiadau am y meirw. Yn ddiweddarach cafwyd casgliadau o epigramau Groeg, yn cynnwys Y Flodeugerdd Roeg. Ymledaenodd yr epigram i Rufain a daeth beirdd fel Martial yn feistri arno. Parhaodd traddodiad yr epigram Lladin clasurol yn rhan o brif ffrwd llenyddiaeth Ewrop am ganrifoedd. Un o epigramwyr Lladin enwocaf yr 17eg ganrif oedd y Cymro John Owen, a adnabyddwyd fel "Martial Prydain".
Yng Nghymru gellid dweud fod naws yr epigram yn elfen bwysig ym marddoniaeth gynnar y Cymry, yn enwedig yn y canu englynol, ond er y ceir llinellau a chwpledi sy'n epigramau mewn llawer o ganu y Cywyddwyr, ni ddatblygodd yn ffurf ar wahân tan y ddeunawfed ganrif. Perthyn yn agos i'r epigram y mae'r diharebion Cymraeg hefyd. Heddiw mae'n parhau i fod yn ffurf boblogaidd gan feirdd Cymraeg ac mae'n un o gystadlaethau arferol Talwrn y Beirdd.
Rhai enghreifftiau
Dyma ychydig o enghreifftiau o epigramau Cymraeg dros y blynyddoedd, gan gychwyn gyda chwpled enwog gan Llawdden (tua 1450-1480):
- 'Nôl blino'n treiglo pob tref
- Teg edrych tuag adref.[1]
Rhys Cain (m. 1614) ar garu'n ofer:
- Cur dwfn yw cariad ofer.[2]
Saunders Lewis yn y ddrama Blodeuwedd:
- Rhodd enbyd yw bywyd i bawb.[3]
Gerallt Lloyd Owen ar brofiad a chyfiawnder:
- A ŵyr frath newyn i'r fron
- A ry bris ar y briwsion.[4]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol, rhif 101.
- ↑ ibid., rhif 506.
- ↑ ibid., rhif 794.
- ↑ ibid., rhif 1246.
Llenyddiaeth
- Alan Llwyd (gol.), Y Flodeugerdd o Epigramau Cynganeddol (Cyhoeddiadau Barddas, 1985).