Nest ferch Rhys ap Tewdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cats |
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd y Dywysoges '''Nest''' yn ferch i [[Rhys ap Tewdwr]], brenin olaf [[Deheubarth]] (c. 1085 – m. cyn 1136; fl. [[1100]]-[[1120]]). |
|||
Adwaenir Nest fel '''Helen Cymru''' oherwydd iddi gael ei chipio gan [[Owain ap Cadwgan]] yn [[1109]], efallai yng [[Castell Cilgerran|nghastell Cilgerran]]. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant. |
Adwaenir Nest fel '''Helen Cymru''' oherwydd iddi gael ei chipio gan [[Owain ap Cadwgan]] yn [[1109]], efallai yng [[Castell Cilgerran|nghastell Cilgerran]]. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant. |
Fersiwn yn ôl 07:02, 30 Rhagfyr 2017
Roedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (c. 1085 – m. cyn 1136; fl. 1100-1120).
Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.
Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.
Ffuglen
Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).