Louis Dduwiol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
{{dechrau-bocs}} |
{{dechrau-bocs}} |
||
{{bocs olyniaeth |
{{bocs olyniaeth |
||
| cyn = [[Siarlymaen]] |
| cyn = [[Siarlymaen|Siarl I (Siarlymaen)]] |
||
| teitl = [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] |
| teitl = [[Ymerawdwr Glân Rhufeinig]] |
||
| blynyddoedd = [[814]] – [[840]] |
| blynyddoedd = [[814]] – [[840]] |
Fersiwn yn ôl 01:26, 30 Rhagfyr 2017
Roedd Louis Dduwiol (Mehefin/Awst 778 - 23 Mehefin 840) yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig a brenin Aquitania.
Louis oedd trydydd mab Siarlymaen, a bwriad gwreiddiol y tad oedd rhannu'r ymerodraeth rhyngddynt. Fodd bynnag gwrthryfelodd un mab yn erbyn ei dad, a bu'r ddau arall farw o flaen Siarlymaen, felly etifeddodd Louis yr ymerodraeth i gyd. Yn ogystal a nifer o ferched, bu ganddo bedwar mab. O'i wraig gyntaf, Ermenganda de Hesbay, cafodd dri mab, Lothair I a ddaeth yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Louis yr Almaenwr a Pipin o Aquitania. O'i ail wraig, Judith, merch Welf, cafodd fab arall, Siarl Foel.
Yn wreiddiol bwriadai Louis rannu'r ymerodraeth rhwng y tri mab hynaf, ond yn nes ymlaen dymunai ychwanegu'r pedwerydd. Gwrthryfelodd y meibion hynaf yn erbyn eu tad, a buont yn ymladd am eu cyfran o'r ymerodraeth. Bu farw Pipin o Aquitania yn 838, ac yn ddiweddarach diweddwyd y brwydro rhwng y tri arall gan Gytundeb Verdun.
Rhagflaenydd: Siarl I (Siarlymaen) |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 814 – 840 |
Olynydd: Lothair I |