Monopoli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Gall y monopolïydd gael [[pris]] uchel am ei [[cynnyrch|gynnyrch]] trwy gyfyngu'r cyflenwad ar y farchnad fel bod y cyflenwad o [[nwydd]]au yn llai na'r [[gofyniad]] amdano. Ond am fod hynny'n milwro yn erbyn budd y [[cwsmer]], mae'r rhan fwyaf o [[economi|economïau]] modern yn cyfyngu ar fonopolïau preifat trwy ddeddfwriaeth. Eithriad i'r drefn honno yw monopolïau gwladol, e.e. yn achos diwydiannau a [[gwasanaeth]]au [[gwladoli]]edig, fel [[Glo Prydain]] a [[British Rail]] ar un adeg. |

== Gweler hefyd == |
|||
* [[Oligopoli]] |
|||
* [[Marchnad rydd]] |
|||
[[Categori:Economeg]] |
[[Categori:Economeg]] |
Fersiwn yn ôl 21:51, 24 Hydref 2008
- Erthygl am y term economaidd yw hon. Am y gêm fwrdd gweler Monopoly.
Yn economeg, term sy'n disgrifio diwydiant neu sector economaidd arall lle mae'r rheolaeth yn nwylo un cwmni gan mai'r cwmni hwnnw yw'r unig un sy'n cyflenwi'r farchnad yw monopoli. Mewn damcaniaeth, mae hynny yn golygu rheolaeth lwyr neu "fonopoli cyflawn" ond yn ymarferol mae'r rhan fwyaf o fonopolïau heddiw yn "lled-fonopolïau", gyda chyflenwr yn dominyddu'r farchnad bron yn llwyr ond gyda lle i ambell gwmni bychan hefyd (e.e. cwmni bws fel Arriva Cymru mewn cystadleuaeth a nifer fechan o gwmnïau lleol llai).
Gall y monopolïydd gael pris uchel am ei gynnyrch trwy gyfyngu'r cyflenwad ar y farchnad fel bod y cyflenwad o nwyddau yn llai na'r gofyniad amdano. Ond am fod hynny'n milwro yn erbyn budd y cwsmer, mae'r rhan fwyaf o economïau modern yn cyfyngu ar fonopolïau preifat trwy ddeddfwriaeth. Eithriad i'r drefn honno yw monopolïau gwladol, e.e. yn achos diwydiannau a gwasanaethau gwladoliedig, fel Glo Prydain a British Rail ar un adeg.