Brech wen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: mr:कांजिण्या
B robot yn ychwanegu: ay:Chuqu usu
Llinell 13: Llinell 13:
[[an:Picueta]]
[[an:Picueta]]
[[ar:جدري]]
[[ar:جدري]]
[[ay:Chuqu usu]]
[[bg:Едра шарка]]
[[bg:Едра шарка]]
[[bs:Boginje]]
[[bs:Boginje]]

Fersiwn yn ôl 22:00, 23 Hydref 2008

Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir dan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen. V. major sy'n achosi'r ffurf fwyaf difrifol ar yr afiechyd, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra mae llai na 1% o'r rhai a effeithir gan V. minor yn marw.

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC.. Yn ystod y 18fed ganrif, credir fod y frech wen yn lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd yn effeithio yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant oedd yn cael y frech yn marw. Erbyn yr 20fed ganrif roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn 1970, cyhoeddodd yr WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Aztec. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yn nghanol y 18fed ganrif, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.