Hanes Sbaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sz-iwbot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 44: Llinell 44:
[[lt:Ispanijos istorija]]
[[lt:Ispanijos istorija]]
[[lv:Spānijas vēsture]]
[[lv:Spānijas vēsture]]
[[nah:Caxtillān tlahtōllōtl]]
[[nah:Tlahtōllōtl Caxtillān]]
[[nl:Geschiedenis van Spanje]]
[[nl:Geschiedenis van Spanje]]
[[nn:Spansk historie]]
[[nn:Spansk historie]]

Fersiwn yn ôl 18:15, 23 Hydref 2008

Dechreua 'hanes Sbaen gyda dyfodiad Homo sapiens i Benrhyn Iberia a'r diriogaeth sy'n awr yn Sbaen tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ddiweddarach, meddianwyd y diriogaeth yn eu tro gan y Celtiaid, y Ffeniciaid a'r Groegiaid. Dechreuodd Gweriniaeth Rhufain feddiannu Sbaen yn y drydedd ganrif CC, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan bwysig o'r Ymerodraeth Rufeinig. Wedi cwymp yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, meddiannwyd Sbaen gan y Fisigothiaid. Yn 711 ymosodwyd ar y deyrnas Fisigothig gan fyddin Islamaidd, a chyn pen ychydig flynyddoedd roedd bron y cyfan o Sbaen ym meddiant dilynwyr Islam, heblaw am ran fechan yn y gogledd. Dan yr enw Al-Andalus, datblygodd Sbaen Islamaidd ei diwylliant unigryw ei hun yn ystod y 750 mlynedd nesaf.

Yn rhannol oherwydd ymraniadau'r Mwslimiaid, gallodd y Cristionogion yn y gogledd ddechrau proses o adennill tiriogaeth, a elwir y Reconquista, a ddaeth i ben pan orchfygwyd y deyrnas Islamaidd olaf, Teyrnas Granada. Gyda chwymp dinas Granada yn 1492 dechreuodd cyfnod newydd yn hanes Sbaen, oherwydd yr un flwyddyn hwyliodd Christopher Columbus i'r Byd Newydd. Hyn oedd dechrau Ymerodraeth Sbaen; goresgynnwyd Mexico gan Hernando Cortés (1485 - 1547), a goresgynnodd Francisco Pizarro (1476 - 1541) diriogaeth Periw gan ddinistrio Ymerodraeth yr Inca. Meddiannwyd rhannau helaeth o ganolbarth a de America gyda rhai meddiannau yn Asia ac Affrica hefyd.

Dechreuodd nerth milwrol Sbaen edwino yn y 18fed ganrif, ac yn nechrau'r 19eg ganrif rhoddodd Napoleon ei frawd José Bonaparte ar orsedd Sbaen. Bu gwrthryfel poblogaidd yn erbyn y Ffrancod, a chyda chymorth byddin Brydeinig gyrrwyd hwy o'r wlad. Dilynwyd hyn gan gyfnod o ansefydlogrwydd, a chollodd Sbaen ei meddiannau tramor.

Yn 1936 dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen, a arweiniodd at fuddugoliaeth Francisco Franco, a fu'n rheoli Sbaen fel unben hyd ei farwolaeth yn 1975. Wedi ei farwolaeth ef, daeth y brenin Juan Carlos I i'r orsedd, a chytunwyd ar gyfansoddiad democrataidd yn 1978. Ymunodd Sbaen a'r Undeb Ewropeaidd, a gwelwyd tŵf economaidd sylweddol. Yn 2002 derbyniwyd yr Euro fel arian.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Sbaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato