Worms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →top: clean up |
Yn gosod File:Worms_Dom_Ostfassade_Vierung2005-05-27a.jpg yn lle Worms_Doom_2005-05-27a.jpg (gan CommonsDelinker achos: File renamed: Criterion 4 (harmonizing names of file set) · Th... |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Worms |
[[Delwedd:Worms Dom Ostfassade Vierung2005-05-27a.jpg|bawd|dde|230px|Eglwys Gadeiriol Worms]] |
||
Dinas yn nhalaith ffederal [[Rheinland-Pfalz]] yn [[yr Almaen]] yw '''Worms'''. Saif ar [[Afon Rhein]] rhwng [[Ludwigshafen]] a [[Mainz]], ac roedd y boblogaeth yn [[2004]] yn 85,829. |
Dinas yn nhalaith ffederal [[Rheinland-Pfalz]] yn [[yr Almaen]] yw '''Worms'''. Saif ar [[Afon Rhein]] rhwng [[Ludwigshafen]] a [[Mainz]], ac roedd y boblogaeth yn [[2004]] yn 85,829. |
Fersiwn yn ôl 10:22, 24 Rhagfyr 2017
Dinas yn nhalaith ffederal Rheinland-Pfalz yn yr Almaen yw Worms. Saif ar Afon Rhein rhwng Ludwigshafen a Mainz, ac roedd y boblogaeth yn 2004 yn 85,829.
Sefydlwyd Worms gan y Celtiaid dan yr enw Borbetomagus, a roddodd yr enw Lladin Vormatia. Ceir dadlau yn yr Almaen rhwng Worms, Cwlen a Trier pa un yw dinas hynaf y wlad.
Worms yw safle llawer o stori cerdd Almaeneg ganoloesol y Nibelungenlied, ac agorwyd amgueddfa y Nibelungenmuseum yma yn 2001. Mae'r eglwys gadeiriol hefyd yn nodedig. Yn Worms y cynhaliwyd Reichstag 1521 pan gyhoeddwyd Martin Luther yn herwr wedi iddo wrthod gwadu ei gredoau crefyddol.