Gareth Llewellyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
YurikBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot Adding: fr
Llinell 12: Llinell 12:


[[en:Gareth Llewellyn]]
[[en:Gareth Llewellyn]]
[[fr:Gareth Llewellyn]]

Fersiwn yn ôl 07:33, 16 Mawrth 2006

Mae Gareth Llewellyn (ganed 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gpaiau dros Gymru fel clo.

Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd a Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-06.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.

Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi i Gymru.