Ysbaddaden Bencawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu / cat
B robot yn ychwanegu: br:Ysbaddaden Pencawr
Llinell 13: Llinell 13:
[[Categori:Cylch Arthur]]
[[Categori:Cylch Arthur]]


[[br:Ysbaddaden Pencawr]]
[[en:Ysbaddaden]]
[[en:Ysbaddaden]]
[[fr:Yspaddaden]]
[[fr:Yspaddaden]]

Fersiwn yn ôl 20:31, 15 Hydref 2008

Cawr chwedlonol yw Ysbaddaden Bencawr ("Ysbaddaden Pennaeth y Cewri"). Mae'n un o brif gymeriadau'r chwedl Gymraeg Canol Culhwch ac Olwen. Merch Ysbaddaden yw Olwen. Mae Culhwch, arwr y chwedl, wedi ei dynghedu gan ei lysfam i garu ac i ennill llaw Olwen yn unig. Ond os bydd Culhwch yn priodi Olwen bydd Ysbaddaden yn marw. Mae pob arwr arall a geisiai Olwen wedi methu neu farw yn yr ymgais.

Mae'r cawr yn gwrthod cais Culhwch am law Olwen deirgwaith gan daflu gwaywffon wenwynig ato bob tro. Y trydydd tro mae Culhwch yn dal y waywffon a'i bwrw yn ôl gan daro Ysbaddaden yn ei lygad. Mae Ysbaddaden yn ildio i gais Culhwch ond ar yr amod ei fod yn cyflawnu deugain tasg amhosibl (yr Anoethau) cyn iddo gael priodi Olwen. Ar ôl cyfres o anturiaethau gyda chymorth arwyr llys Arthur mae Culhwch yn cyflawni'r Anoethau. Mae Gorau fab Custennin yn torri pen y cawr ac mae Culhwch o'r diwedd yn priodi Olwen.

Llyfryddiaeth

  • Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)