Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun (ffynhonnell: http://geograph.org.uk/photo/141244 dan drwydded Creative Commons)
B tacluso
Llinell 9: Llinell 9:
Mae llwybr Cenedlaethol [[Lôn Las Cymru]] yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran [[Lôn Eifion]], ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.
Mae llwybr Cenedlaethol [[Lôn Las Cymru]] yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran [[Lôn Eifion]], ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.


===Llyfryddiaeth===
==Llyfryddiaeth==
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN: 0-11-701574-1


===Dolenni allanol===
==Dolenni allanol==
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml Hanes mart Bryncir]
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/gogleddorllewin/hanes/pages/mart_bryncir.shtml BBC Cymru: Hanes mart Bryncir]


{{Trefi Gwynedd}}
{{Trefi Gwynedd}}

Fersiwn yn ôl 18:57, 14 Hydref 2008

Mae Bryncir yn bentref yn Eifionydd, Gwynedd. Saif ar y briffordd A487 rhwng Pant Glas a Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Delwedd:Bryncir.jpg
Bryncir

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6ed ganrif gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Llyfryddiaeth

  • Lynch, Frances (1995) Gwynedd (A guide to ancient and historic Wales) (Llundain:HMSO). Gw: Pen Llystyn. ISBN: 0-11-701574-1

Dolenni allanol