C'mon Midffîld!: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 16: | Llinell 16: | ||
==Rhyddhau== |
==Rhyddhau== |
||
Rhyddhawyd y gyfres |
Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng [[2005]] <ref name="archifsain" /> a [[2007]]. |
||
==Ffynonellau== |
==Ffynonellau== |
Fersiwn yn ôl 01:00, 14 Hydref 2008
Cyfres deledu drama a chomedi oedd C'mon Midffild!, cynhyrchwyd gan Ffilmiau'r Nant a ddarlledwyd am y tro cyntaf ar yr 18 Tachwedd 1988 ar S4C.[1] Dechreuodd fel rhaglen ar BBC Radio Cymru, roedd tair cyfres cyn iddo symyd i'r teledu. Y cyfarwyddwr oedd Alun Ffred Jones a gyd-ysgrifennodd y gyfres ynghyd â Mei Jones. Mei Jones oedd hefyd yn actio rhan Wali Thomas.
Credai rhai iddo gael ei seilio ar Glwb Pêl-droed Pontrhydfendigaid.[2][3]
Enillodd y rhaglen wobr 'Y Ddrama Gyfres /Gyfresol Orau' BAFTA Cymru i Mei Jones ac Alun Ffred yn 1992. Enillodd Mei Jones hefyd wobr 'Yr Awdur Gorau Ar Gyfer Y Sgrin - Cymreig' BAFTA Cymru.[4]
Cymeriadau
Arthur Picton = John Pierce Jones
Tecwyn Parri = Bryn Fôn
Wali Thomas = Mei Jones
George Huws = Llion Williams
Sandra Picton/Huws = Sian Wheldon (Cyfres 1-5), Gwenno Hodgkins (Cyfres 6)
Lydia Thomas = Catrin Dafydd
Harri = Rhys Richards
Graham = Mal Lloyd
Rhyddhau
Rhyddhawyd y gyfres mewn set o 10 DVD rhwng 2005 [1] a 2007.