Edward George Bowen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
erthygl newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:00, 12 Hydref 2008
Ganwyd Edward George Bowen (1911-1911) yn Cockett ger Abertawe, ble'r aeth i'r coleg. Rhwng 1933 ac 1934 bu'n gweithio ar y darganfyddwr cyfeiriad gyda'r 'cathode-ray' yn Slough ble y daeth dan ddylanwad Robert Watson-Watt. Tua diwedd 1935, symudodd y tim cyfan i Ganolfan Ymchwil yr Awyrlu ('The Air Ministry Research Station' yn Bawdsey Manor lle gweithiwyd ar y 'radar' newydd. Bowen fu'n gyfrifol am ddyfeisio radar ar gyfer awyrennau.
Yn 1940 aeth i UDA a Canada i rannu gwybodaeth. Cludodd ei 'cavity magnetron', sef rhan hanfodol o'r radar-tonnau-centimetr gydag ef. Gweithiodd ymhellach ar ei ddyfais yn Washington a Sydney ble y cododd delesgop radar 210 troedfedd yn Parkes yn New South Wales.
Ymddeolodd yn 1971. Derbyniodd yr OBE yn 1941, Medal Rhyddid America yn 1947 a'r CBE yn 1962.