Afon Medway: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
B robot yn ychwanegu: fr:Medway (fleuve), ru:Медуэй (река) |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
[[en:River Medway]] |
[[en:River Medway]] |
||
[[es:Río Medway]] |
[[es:Río Medway]] |
||
[[fr:Medway (fleuve)]] |
|||
[[nl:Medway (rivier)]] |
[[nl:Medway (rivier)]] |
||
[[no:Medway (elv)]] |
[[no:Medway (elv)]] |
||
[[ru:Медуэй (река)]] |
Fersiwn yn ôl 18:00, 11 Hydref 2008
Afon yn ne-ddwyrain Lloegr yw Afon Medway. Mae'n codi yn swydd Sussex ac yna'n llifo tua'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain trwy Gaint i aberu yn Afon Tafwys. Ar ei ffordd mae'n llifo trwy Tonbridge, Maidstone, Rochester, Chatham a Gillingham. Ei hyd yw 113 km (70 milltir). Ymhlith yr afonydd sy'n ymuno ynddi y mae Afon Eden ac Afon Loose.
Brwydr Afon Medway
Yn y flwyddyn OC 43 ymladdwyd brwydr fawr rhwng llwyth Celtaidd y Catuvellauni a'r Rhufeiniaid ar lan yr afon, ar safle rhywle yng nghyffiniau Rochester. Caradog a’i frawd Togodumnus a arweiniodd lluoedd y Catuvellauni yn erbyn y fyddin Rufeinig dan Aulus Plautius. Gorchfygwyd hwy gan y Rhufeiniaid yn y frwydr honno ac mewn brwydr arall ar lan Afon Tafwys wedyn a chymerodd y llengoedd feddiant ar diriogaethau’r llwyth. Lladdwyd Togodumnus yn y brwydro, ond dihangodd Caradog tua’r gorllewin i deyrnas y Silwriaid.