Salmonela: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Salmonella"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:02, 7 Rhagfyr 2017

Mae salmonela /ˌsælməˈnɛlə/ yn fath o bacteria siâp gwialen (basilws) sy'n aelod o'r teulu Enterobacteriaceae. Y ddwy rywogaeth o Salmonela yw Salmonela enterica a Salmonela bongori. Salmonella enterica yw'r rhywogaeth math, a caiff ei rannu i chwe is-rywogaeth sy'n cynnwys dros 2,500 o seroteipiau.  

MaeSalmonella yn rywogaeth nad yw'n ffurfio sborau, sef motile enterobacteria yn bennaf gyda diamedrau celloedd rhwng oddeutu 0.7 a 1.5 µm, hyd rhwng 2 a 5 µm, a peritrichous flagella (o amgylch corff y cell i gyd).[1] Chemotroffau ydynt, sy'n cael eu hegni o adweithiau rhydwythiad ocsidiad drwy ddefnyddio ffynonellau organig. MAent hefyd yn anaeorbau goddefol, sy'n gallu cynhyrchu ATP gydag ocsigen ("yn aerobig") pan mae ar gael; neu phan nad oes ocsigen ar gael, drwy ddefnyddio derbynwyr neu eplesu ("yn anaerobig").  Caiff yr is-rywogaeth S. enterica eu canfod ar draws y byd ym mhob anifail gwaed cynnes ac yn yr amgylchedd. Mae S. bongori wedi'i gyfyngu i anifeiliaid gwaed oer, yn arbennig ymlusgiaid.[2]

Mae rhywogaethau Salmonela yn species are bathogenau mewngellol:[3] mae rhai seroteipiau'n achosi salwch. Gall seroteipiau nad ydynt yn deiffoidaidd gael eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl ac o bobl i bobl. Maent gan amlaf yn effeithio'r coluddion yn unig, ac yn achosi gwenwyn bwyd Salmonela; mae'r symptomau yn mynd heb unrhyw wrthfiotigau. Fodd bynnag, yng yng ngweldydd Affrica is y Sahara gallant achosi clefyd parateiffoid, sydd angen triniaeth frys gyda gwrthfiotigau. Gall Tseroteipiau teiffoiaidd dim ond eu trosglwyddo rhwng pobl, a gallant achosi gwenwyn bwyd Salmonela, clefyd teiffoid a chlefyd parateiffoid.[4] Mae clefyd Teiffoid yn digwydd pan fo Salmonela yn cyrraedd y gwaed - y ffurf teiffoidaidd; neu yn ogystal yn lledaenu drwy'r corff, yn effeithio'r organnau, ac yn dangos endotocsinau - y ffurf septig. Gall hyn arwain at sioc hypofolemig a sioc septig, a all arwain at farwolaeth, ac mae angen gofal dwys gan gynnwys gwrthfiotigau.

  1. Fabrega, A.; Vila, J. (2013). "Salmonella enterica Serovar Typhimurium Skills To Succeed in the Host: Virulence and Regulation". Clinical Microbiology Reviews 26 (2): 308–341. doi:10.1128/CMR.00066-12. ISSN 0893-8512. PMC 3623383. PMID 23554419. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3623383.
  2. Tortora GA (2008). Microbiology: An Introduction] (arg. 9th). Pearson. tt. 323–324. ISBN 8131722325.
  3. Jantsch, J.; Chikkaballi, D.; Hensel, M. (2011). "Cellular aspects of immunity to intracellular Salmonella enterica". Immunological Reviews 240 (1): 185–195. doi:10.1111/j.1600-065X.2010.00981.x. PMID 21349094.
  4. Ryan I KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 362–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)CS1 maint: Extra text: authors list (link)