Will & Grace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 28: | Llinell 28: | ||
[[Categori:Rhaglenni teledu Americanaidd]] |
[[Categori:Rhaglenni teledu Americanaidd]] |
||
== Y Cast a'r Criw == |
|||
Prif Gymeriadau |
|||
'''Will Truman''' ''(Eric McCormack)'' |
|||
[[Cyfreithiwr]] [[hoyw]] a ffrind gorau hir dymor i Grace. Mae ganddo agwedd hynod niwrotig i'w bersonoliaeth, yn enwedig pan mae'n dod i lanhau. Mae sawl cymeriad wedi dweud fod ei berthynas ef a Grace yn fwy fel perthynas cwpl na pherthynas rhwng dau ffrind. |
|||
'''Grace Adler''' ''(Debra Messing)'' |
|||
Dylunydd cartref ac ymddengys fod ganddi obsesiwn â bwyd. Mae Grace wedi bod yn ffrindiau gorau gyda Will ers dyddiau coleg. Roeddent yn canlyn yn y 1980au nes i Will sylweddoli ei fod yn hoyw ar ôl iddo gwrdd a'i ffrind Jack. |
|||
'''Jack McFarland''' ''(Sean Hayes)'' |
|||
Un o ffrindiau gorau Will, mae Jack yn arwynebol a dros ben llestri. Symuda Jack o'r naill gariad i'r nesaf, o swydd i swydd gan gynnwys [[actor]] di-waith, gweithio mewn siop ac fel myfyriwr i fod yn nyrs. Yn nechreuadau'r sioe, datblyga Jack berthynas glos â Karen. |
|||
'''Karen Walker''' ''(Megan Mullally)'' |
|||
Alcoholig a gwraig i wr cyfoethog Stan Walker (er nad yw'r gynulleidfa byth yn ei weld.) Mae Karen hefyd yn ddibynnol ar [[cyffuriau|gyffuriau]] presgripsiwn, poen-laddwyr ac amffeteminau yn benodol. Mae'n "gweithio" fel cynorthwyydd i Grace gan wneud "Grace Adler Designs" yn fwy poblogaidd ymysg ei chylchoedd cymdeithasol hi. Gall Karen fod yn eithaf disensitif, ond mae'n glos at Grace a Jack, ac ar adegau i Will hefyd. |
Fersiwn yn ôl 10:09, 9 Hydref 2008
Will & Grace | |
---|---|
Genre | Comedi |
Serennu | Eric McCormack Debra Messing Sean Hayes Megan Mullally Shelley Morrison |
Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 8 |
Nifer penodau | 184 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c.23 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | NBC |
Darllediad gwreiddiol | 21ain o Fedi, 1998 – 18fed o Fai, 2006 |
Cysylltiadau allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Mae Will & Grace yn rhaglen gomedi boblogaidd o'r Unol Daleithiau. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar NBC o 1998 tan 2006. Ennillodd y sioe Wobr Emmy. Lleolir y rhaglen yn Ninas Efrog Newydd ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr hoyw a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw heterorywiol Iddewig sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.
Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, ennillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.
Ffilmiwyd Will & Grace o flaen cynulleidfa stiwdio fyw (y rhan fwyaf o benodau a golygfeydd) ar nosweithiau Mawrth ar Lwyfan 17 yng Nghanolfan Stiwdios CBS.
Ar hyn o bryd, mae'r ystafell lle trigai Will a Grace mewn arddangosfa yn Llyfrgell Coleg Emmerson. Rhoddwyd y set iddynt gan grëwr y gyfres, Max Mutchnik.
Y Cast a'r Criw
Prif Gymeriadau
Will Truman (Eric McCormack)
Cyfreithiwr hoyw a ffrind gorau hir dymor i Grace. Mae ganddo agwedd hynod niwrotig i'w bersonoliaeth, yn enwedig pan mae'n dod i lanhau. Mae sawl cymeriad wedi dweud fod ei berthynas ef a Grace yn fwy fel perthynas cwpl na pherthynas rhwng dau ffrind.
Grace Adler (Debra Messing)
Dylunydd cartref ac ymddengys fod ganddi obsesiwn â bwyd. Mae Grace wedi bod yn ffrindiau gorau gyda Will ers dyddiau coleg. Roeddent yn canlyn yn y 1980au nes i Will sylweddoli ei fod yn hoyw ar ôl iddo gwrdd a'i ffrind Jack.
Jack McFarland (Sean Hayes)
Un o ffrindiau gorau Will, mae Jack yn arwynebol a dros ben llestri. Symuda Jack o'r naill gariad i'r nesaf, o swydd i swydd gan gynnwys actor di-waith, gweithio mewn siop ac fel myfyriwr i fod yn nyrs. Yn nechreuadau'r sioe, datblyga Jack berthynas glos â Karen.
Karen Walker (Megan Mullally)
Alcoholig a gwraig i wr cyfoethog Stan Walker (er nad yw'r gynulleidfa byth yn ei weld.) Mae Karen hefyd yn ddibynnol ar gyffuriau presgripsiwn, poen-laddwyr ac amffeteminau yn benodol. Mae'n "gweithio" fel cynorthwyydd i Grace gan wneud "Grace Adler Designs" yn fwy poblogaidd ymysg ei chylchoedd cymdeithasol hi. Gall Karen fod yn eithaf disensitif, ond mae'n glos at Grace a Jack, ac ar adegau i Will hefyd.