UMCA: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man newidiadau
Llinell 19: Llinell 19:


== Cyn-aelodau nodedig ==
== Cyn-aelodau nodedig ==
[[Alex Jones]] (Cyflwynwraig Teledu)
* [[Alex Jones]] (Cyflwynwraig Teledu)
* [[Eurig Salisbury]] (Bardd)

[[Eurig Salisbury]] (Bardd)
* [[Hywel Griffiths]] (Bardd)
* 2009/11 [[Wyn Jones]] (Chwaraewr Rygbi)

[[Hywel Griffiths|Hywel Griffths]] (Bardd)

2009/11 [[Wyn Jones]] (Chwaraewr Rygbi)


== Llywyddion UMCA ==
== Llywyddion UMCA ==

Fersiwn yn ôl 15:56, 5 Rhagfyr 2017

Sefydlwyd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, neu UMCA, yn 1974 i gynrychioli buddiannau myfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy'n mynychu Prifysgol Cymru Aberystwyth. UMCA sydd yn trefnu Sŵn bob mis a'r Ddawns Ryng-Golegol yn flynyddol. Lleolir swyddfa'r undeb yn Neuadd Pantycelyn.

Mae gan yr undeb rôl ganolog yn natblygiadau ieithyddol Cymru. Yn ddiwylliannol mae UMCA wedi bod yn allweddol yn cynhyrchu artistiaid mwyaf blaenllaw'r sin megis bandiau diweddar Yr Ods ac Ysgol Sul[1]. Hefyd gweler datblygiadau gwleidyddol yn cael ei chynnal gan yr Undeb megis yr ymgyrch i sefydlu Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn ddiweddarach ymgyrch Achub Pantycelyn l a gafodd sylw cenedlaethol gyda bygythiadau ymprydio a myfyrwyr yn meddiannu Pantycelyn.[2] Yn ôl ymroddiad Cyngor y Brifysgol mi fydd Pantycelyn yn cael ei ail agor ar ei newydd wedd erbyn Medi 2019.[3]

Ym mis Awst 2016 cyhoeddodd UMCA logo newydd fel modd o esblygu'r Undeb i'r deugain mlynedd nesaf.[4] O ganlyniad i ddatblygiadau y brifysgol i gynyddu darpariaeth Cyfrwng Cymraeg mi fydd Aelolaeth UMCA am ddim.[5] Gallogai'r aelodaeth am ddim bod pawb sy'n medru'r Gymraeg yn y Brifysgol yn aelodaeth awtomatig o UMCA.[6]

Eisteddfod Ryng-golegol

Yn flynyddol mae UMCA yn cystadlu yn yr Eisteddfod Ryng-golegol sy'n teithio o amgylch brifysgolion Cymru. Cynhelir cystadlaethau chwaraeon, gig gyda'r hwyr ac Eisteddfod danllyd yn ystod y dydd. Yn wahanol i nifer o Eisteddfodau mae'r un rhwng y myfyrwyr yn fwy swnllyd gyda chystadleuaeth megis Bing Bong yn cael ei gynnal yn 2017

Yn 2017 fe ddaeth Aberystwyth yn ail, ond uchafbwynt y penwythnos oedd Carwyn Eckley myfyriwr yn astudio Cymraeg yn ei drydedd flwyddyn yn cipio'r gadair o dan y testun yr Arwr.[7] Fe gystadlodd Cymdeithas Cymraeg Lerpwl am y tro cyntaf erioed.

Dyma drefn lleoliadau nesaf yr Eisteddfod

  • 2018 - Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • 2019 - Prifysgol Abertawe
  • 2020 - Prifysgol Aberystwyth
  • 2021 - Prifysgol Caerdydd
  • 2022 - Prifysgol Bangor

Bydd y cylch yma'n parhau o 2023 ymlaen.

Cyn-aelodau nodedig

Llywyddion UMCA

Dolenni

Gwefan UMCA

Cyfeiriadau

  1. https://www.umaber.co.uk/eich-undeb/umca/sngerddorolumca/
  2. [1] BBC Report overhaul call for Welsh Pantycelyn halls, Aberystwyth 20 Mai, 2015
  3. [2] Golwg 360 Prifysgol yn cymeradwyo ailagor Pantycelyn, 29 Mehefin 2016
  4. [3] BBC UMCA: Yr hen a'r newydd 17 Awst, 2016
  5. Aberystwyth, Prifysgol 06 Rhagfyr (2016) https://www.aber.ac.uk/cy/news/archive/2016/12/title-195139-cy.html
  6. [4] BBC Cymru Fyw. 18/08/2016
  7. http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/5106/desc/carwyn-eckley-yn-cipior-gadair-yn-eisteddfod-ryng-golegol-2017/
  8. Golwg 360 (Mawrth 22, 2017) Llywydd newydd UMCA am weld Pantycelyn yn “ganolbwynt” http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/258078-llywydd-newydd-umca-am-atgyfnerthu-statws-pantycelyn-fel-canolbwynt-ir-cymry