Will & Grace: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
| amser_rhedeg = c.23 munud
| amser_rhedeg = c.23 munud
| sianel = [[NBC]]
| sianel = [[NBC]]
| darllediad_cyntaf = 21ain o [[Medi|Fedi]], 1998
| darllediad_cyntaf = 21ain o [[Medi|Fedi]], [[1998]]
| darllediad_olaf = 18fed o [[Mai|Fai]], 2006
| darllediad_olaf = 18fed o [[Mai|Fai]], [[2006]]
| gwefan = http://www.nbc.com/Will_&_Grace_Finale/
| gwefan = http://www.nbc.com/Will_&_Grace_Finale/
| rhif_imdb = 0157246
| rhif_imdb = 0157246

Fersiwn yn ôl 18:08, 5 Hydref 2008

Will & Grace
Genre Comedi
Serennu Eric McCormack
Debra Messing
Sean Hayes
Megan Mullally
Shelley Morrison
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 8
Nifer penodau 184
Cynhyrchiad
Amser rhedeg c.23 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol NBC
Darllediad gwreiddiol 21ain o Fedi, 1998 – 18fed o Fai, 2006
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb


Mae Will & Grace yn rhaglen gomedi boblogaidd o'r Unol Daleithiau. Darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol ar NBC o 1998 tan 2006. Ennillodd y sioe Wobr Emmy. Lleolir y rhaglen yn Ninas Efrog Newydd ac mae'r sioe'n ymdrin â Will Truman, cyfreithiwr hoyw a'i ffrind gorau Grace Adler, menyw heterorywiol Iddewig sy'n berchen ar ei chwmni dylunio cartrefi ei hun. Mae ffrindiau'r ddau hefyd yn chwarae rhan flaenllaw sef Karen Walker, cymdeithaswraig hynod gyfoethog, a Jack McFarland, actor hoyw sy'n ei chael yn anodd ffeindio gwaith.

Will & Grace yw'r gyfres deledu rhwydweithiol gyntaf i arddangos un neu fwy o gymeriadau hoyw fel y prif gymeriadau fel rhan o gysyniad y sioe. Dyma'r gyfres fwyaf llwyddiannus i wneud hyn hefyd, er gwaethaf y feirniadaeth gychwynnol o'r modd y darluniwyd pobl hoyw. Yn ystod yr wyth mlynedd y cafodd y sioe ei chreu, ennillodd Will & Grace wyth Gwobr Emmy, allan o 83 enwebiad yn gyfangwbl.

Ffilmiwyd Will & Grace o flaen cynulleidfa stiwdio fyw (y rhan fwyaf o benodau a golygfeydd) ar nosweithiau Mawrth ar Lwyfan 17 yng Nghanolfan Stiwdios CBS.

Ar hyn o bryd, mae'r ystafell lle trigai Will a Grace mewn arddangosfa yn Llyfrgell Coleg Emmerson. Rhoddwyd y set iddynt gan grëwr y gyfres, Max Mutchnik.