Griffith John Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig amryddawn oedd '''Griffith John Williams''' (1892 - 1963), a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw '''G. J. Williams'''. Roedd yn fr...
 
Llinell 9: Llinell 9:
==Llyfryddiaeth ddethol==
==Llyfryddiaeth ddethol==
* ''Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1926)
* ''Iolo Morganwg a Chywyddau'r Ychwanegiad'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1926)
* (gol.), ''Gramadegau'r Penceirddiaid'' [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1934)
* (gol.), ''Gramadegau'r Penceirddiaid'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1934)
* (gol.), ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1939)
* (gol.), ''Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1939)
* ''Traddodiad Llenyddol Morgannwg'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1948)
* ''Traddodiad Llenyddol Morgannwg'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1948)
* ''Iolo Morganwg'' [[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1956). Y gyntaf o ddwy gyfrol a fwriadwyd ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg: bu farw'r awdur cyn gallu gorffen yr ail.
* ''Iolo Morganwg'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1956). Y gyntaf o ddwy gyfrol a fwriadwyd ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg: bu farw'r awdur cyn gallu gorffen yr ail.


{{DEFAULTSORT:Williams, Griffith John}}
{{DEFAULTSORT:Williams, Griffith John}}

Fersiwn yn ôl 19:46, 4 Hydref 2008

Hanesydd llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolhaig amryddawn oedd Griffith John Williams (1892 - 1963), a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw G. J. Williams. Roedd yn frodor o Gellan, Ceredigion.

Astudiodd am ei radd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl treulio cyfnod fel athro ysgol yn y Rhondda a Dolgellau, daeth yn ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac yn nes ymlaen olynodd W. J. Gruffydd yn y Gadair Gymraeg.

Cofir G. J. Williams yn bennaf am ei ymchwil i hanes llenyddiaeth Gymraeg ym Morgannwg ac yn enwedig gwaith Iolo Morganwg. Er bod rhai ysgolheigion wedi amau dilysrwydd rhai o'r gweithiau canoloesol honedig sydd i'w cael yn llyfrau Iolo, e.e. "cywyddau'r ychwanegiad" Dafydd ap Gwilym, G. J. Williams oedd y cyntaf i brofi yn derfynnol mai ffugiadau llenyddol ydynt. Datgelodd hefyd mai ffugiadau yw trwch y trioedd yn nhraddodiad Trioedd Ynys Prydain a thestunau eraill gan Iolo a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology of Wales. Roedd y gweithiau hyn wedi camarwain haneswyr llenyddiaeth Gymraeg am flynyddoedd lawer a bu astudiaethau G. J. Williams yn gymorth mawr i sefydlu seiliau cadarn i ysgolheictod llenyddol yng Nghymru.

Ymddiddorai G. J. Williams yng ngwaith y Dyneiddwyr Cymreig hefyd. Cyhoeddodd olygiad safonol o lyfr gramadeg Gruffydd Robert sy'n cynnwys traethawd hir ar yr awdur. Nid llai fu ei gyfraniad i'n dealltwriaeth o'r traddodiad barddol chwaith, diolch i'w gyfrol fawr Gramadegau'r Penceirddiaid a nifer o erthyglau dysgedig.

Llyfryddiaeth ddethol