Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cyfnewid Mari o'r Alban am Mari I o Loegr |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
|||
| onlysourced=no |
|||
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth |
|||
| dateformat = dmy |
|||
⚫ | |||
| caption = Cerflun o Richard Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn [[Llanelwy]]. |
|||
}} |
|||
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].'' |
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].'' |
||
⚫ | |||
Esgob a chyfieithydd oedd '''Richard Davies''' (?[[1501]] – [[7 Tachwedd]] [[1581]]), a aned yn y [[Gyffin]], ger tref [[Conwy (tref)|Conwy]]. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob [[Esgob Llanelwy|Llanelwy]] a [[Esgob Tyddewi|Thyddewi]]. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â [[William Salesbury]] yn cyfieithu'r [[Testament Newydd]] i'r [[Gymraeg]]. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig [[Siôn Dafydd Rhys]] (John Davies). |

Fersiwn yn ôl 19:28, 3 Rhagfyr 2017
Richard Davies | |
---|---|
Cerflun o Richard Davies ar Gofeb Cyfieithwyr y Beibl yn Llanelwy. | |
Ganwyd | c. 1501 Gyffin |
Bu farw | 7 Tachwedd 1581, 7 Tachwedd 1581 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | offeiriad, cyfieithydd |
Swydd | Esgob Llanelwy, esgob |
- Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler Richard Davies (gwahaniaethu).
Esgob a chyfieithydd oedd Richard Davies (?1501 – 7 Tachwedd 1581), a aned yn y Gyffin, ger tref Conwy. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n Esgob Llanelwy a Thyddewi. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â William Salesbury yn cyfieithu'r Testament Newydd i'r Gymraeg. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig Siôn Dafydd Rhys (John Davies).
Bywgraffiad
Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr Protestannaidd. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas Frankfurt yn yr Almaen oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad Mari I, dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n Esgob Llanelwy ac yna ym 1561 yn Esgob Tyddewi.
Gweithiai'n ddyfal gyda William Salesbury i berswadio senedd San Steffan i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ym 1563 ymunodd â Salesbury yn ei blas yn Abergwili i gyfieithu'r Testament Newydd gyda fo. Richard Davies yw awdur yr Epistol at y Cembru ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd 1567; cafodd ddylanwad mawr ar hanesyddiaeth Cymru.
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.
Llyfryddiaeth
- D. R. Thomas, The Life and Work of Richard Davies and William Salesbury (Croesoswallt, 1902)