Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gwaith llenyddol: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
B Gwybodlen wicidata
Llinell 1: Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata
[[Delwedd:Revd Robert Thomas (Ap Vychan, 1809-80) NLW3362405 (cropped).jpg|250px|bawd|dde|Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o Gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]]]
| fetchwikidata=ALL

| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
| image = Revd Robert Thomas (Ap Vychan, 1809-80) NLW3362405 (cropped).jpg
| caption = Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o Gasgliad [[John Thomas (ffotograffydd)|John Thomas]], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]
}}
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]].
Llenor a gweinidog [[Cymry|Cymreig]] o ardal [[Penllyn]], [[Gwynedd]], oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' ([[11 Awst]] [[1809]] – [[23 Ebrill]] [[1880]]). Roedd yn perthyn i Fychaniaid [[Caer Gai]] ac felly'n ddisgynydd pell i [[Rowland Vaughan]], [[Gwerful Fychan]] a [[Tudur Penllyn]].



Fersiwn yn ôl 18:51, 3 Rhagfyr 2017

Robert Thomas
Robert Thomas (Ap Vychan) (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
FfugenwAp Vychan Edit this on Wikidata
Ganwyd11 Awst 1809 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ebrill 1880 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, ysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata
PlantDavid V. Thomas Edit this on Wikidata

Llenor a gweinidog Cymreig o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 180923 Ebrill 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.

Bywgraffiad

Ganed Ap Vychan (sic gyda 'V') mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Fe'i maged mewn amgylchiadau caled iawn. Gweithiodd englyn i'w fam,

Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
Yn wyneb caledfyd;
Canai hi heb ofni'r byd
Yn oedfa gerwin adfyd.

Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhifyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feistr, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill, a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i benodwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.

Gwaith llenyddol

Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaer, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bwysig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19g.

Llyfryddiaeth

Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.

Dolennau allanol