I. D. Hooson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwybodlen wicidata
Llinell 1: Llinell 1:
{{infobox person/Wikidata
| fetchwikidata=ALL
| onlysourced=no
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth
| dateformat = dmy
}}
[[Delwedd:I D Hooson - Y Casgliad Cyflawn (llyfr).jpg|bawd|Clawr adargraffiad o'i gerddi.]]
[[Delwedd:I D Hooson - Y Casgliad Cyflawn (llyfr).jpg|bawd|Clawr adargraffiad o'i gerddi.]]
Roedd '''Isaac Daniel Hooson''' ([[2 Mai]] [[1880]] – [[18 Hydref]] [[1948]]), neu '''I.D. Hooson''', yn [[bardd|fardd]] [[Cymraeg]] a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig [[telyneg]]ion a [[baled]]i. Un o'i faledi enwocaf yw'r ''Fantell Fraith'' a gyhoeddodd yn 1934.
Roedd '''Isaac Daniel Hooson''' ([[2 Mai]] [[1880]] – [[18 Hydref]] [[1948]]), neu '''I.D. Hooson''', yn [[bardd|fardd]] [[Cymraeg]] a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig [[telyneg]]ion a [[baled]]i. Un o'i faledi enwocaf yw'r ''Fantell Fraith'' a gyhoeddodd yn 1934.

Fersiwn yn ôl 17:38, 3 Rhagfyr 2017

I. D. Hooson
Ganwyd2 Medi 1880 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ramadegol Rhiwabon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Clawr adargraffiad o'i gerddi.

Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 188018 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.

O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel "Cyfaill i Blant Cymru".

Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.

Gwaith

Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i "Mri Morris & Jones" yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.[1]

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol

Dolen allanol


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.