John Lloyd-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cyfeiriadau: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) B Gwybodlen wicidata |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{infobox person/Wikidata |
|||
| fetchwikidata=ALL |
|||
| onlysourced=no |
|||
| suppressfields= cenedl dinasyddiaeth |
|||
| dateformat = dmy |
|||
}} |
|||
Ysgolhaig a bardd oedd '''John Lloyd-Jones''' ([[14 Hydref]] [[1885]] – [[1 Chwefror]] [[1956]]), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin [[Cymru]]. |
Ysgolhaig a bardd oedd '''John Lloyd-Jones''' ([[14 Hydref]] [[1885]] – [[1 Chwefror]] [[1956]]), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin [[Cymru]]. |
||
Fersiwn yn ôl 16:16, 3 Rhagfyr 2017
John Lloyd-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 14 Hydref 1885, 1885 Dolwyddelan |
Bu farw | 1 Chwefror 1956, 1956 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Ysgolhaig a bardd oedd John Lloyd-Jones (14 Hydref 1885 – 1 Chwefror 1956), a gofir am ei waith fel geiriadurwr hanesyddol ac awdurdod ar enwau lleoedd gogledd-orllewin Cymru.
Bywgraffiad
Ganed John Lloyd-Jones ym mhentref Dolwyddelan yn Nyffryn Lledr, Sir Gaernarfon (Sir Conwy heddiw). Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle bu'n un o ddisgyblion John Morris-Jones, a Rhydychen. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa goleg fel darlithydd mewn Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Dulyn, lle denodd llu o fyfyrwyr disglair yn cynnwys T. J. Morgan, Bobi Jones a J. E. Caerwyn-Williams.
Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1922 am ei awdl 'Awdl y Gaeaf'. Ond fel awdur dau lyfr awdurdodol fe'i cofir yn bennaf, sef Enwau Lleoedd Sir Gaernarfon (1928) a Geirfa Barddoniaeth Gynnar Gymraeg (1931-65), geiriadur hanesyddol mawr o eirfa cerddi Cymraeg Canol a Hen Gymraeg a adawyd heb ei orffen ar ei farwolaeth yn 1956, wedi cyhoeddi wyth rhan.
Mewn coffâd iddo yn y Times, dywedwyd iddo fod yn "llysgennad answyddogol" dros Gymru ac Iwerddon.[1] Roedd yn arholwr allanol Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru rhwng 1916 a 1955 pan ymddeolodd.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ "Prof. J. Lloyd-Jones – Welsh ambassador in Ireland". The Times. 17 February 1956. t. 11.
- ↑ Parry, Thomas. "Lloyd-Jones, John (1885–1956), scholar and poet". Welsh Biography Online. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2008.