Coleg Girton, Caergrawnt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
B rhyngwici
Llinell 38: Llinell 38:
* [[Derek Walcott]], Bardd, awdur, artist
* [[Derek Walcott]], Bardd, awdur, artist
* [[Gwyneth Lewis]], barddes ac awdyres Cymreig dwyieithog
* [[Gwyneth Lewis]], barddes ac awdyres Cymreig dwyieithog

[[de:Girton College (Cambridge)]]
[[en:Girton College, Cambridge]]
[[fr:Girton College (Cambridge)]]
[[ja:ガートン・カレッジ]]

Fersiwn yn ôl 12:19, 26 Chwefror 2006

Coleg Girton yw un o aelod-golegau Prifysgol Caergrawnt. Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref, 1869, gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i ferched yn Lloegr. Fe'i leolir yn Swydd Hertford i gychwyn, ond fe prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt yn 1872, ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, fe ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r cleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.

Ar 27 Ebrill, 1948, fe estynwyd aelodaeth llawn o Brifysgol Caergrawnt i ferched, ac fe ddaeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; fe gyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnir mynediad i is-raddedigion gwrywaidd er 1979.

Meistres y coleg yw'r Athro-Fonegiddes Marilyn Strathern.

Graddedigion Nodedig

  • Hertha Marks Ayrton, Peirianwraig drydanol
  • Isabel Cooper-Oakley, Ysgrifenwraig theosoffaidd
  • Brenda Hale, Barwnes Richmond
  • Jessie Isabel Hetherington, Addysgwraig Seland Newydd
  • Arianna Huffington, awdures a gweithredwraig wleidyddol
  • Wendy Holden, nofelwraig
  • Rosamond Lehmann, nofelwraig
  • Sheila Scott Macintyre, mathemategwraig
  • Ada Isabel Maddison, mathemategwraig
  • Margrethe II of Denmark, Brenhines Regnaidd Denmark
  • Dorothy Marshall, haneswraig ac addysgwraig
  • Annie Maunder, seryddwraig
  • Constance Maynard, ffeminydd ac addysgwraig
  • Sarojini Naidu, barddes Indiaidd
  • Sheila Pim, awdures
  • Emily James Smith Putnam, addysgwraig a haneswraig Americanaidd
  • Gisela Richter, archaeolegwraig glasurol a haneswraig gelf
  • Joan Robinson, economegwraig brydeinig
  • Clara Ruth Rouse, cenhadwraig grefyddol
  • Ethel Sargant, botanegwraig
  • Charlotte Angas Scott, mathemategwraig
  • Irene Spry, haneswraig economaidd
  • Margaret Storey, awdures llyfrau plant
  • Bertha Swirles (Yr Arglwyddes Jeffreys), ffisegwraig
  • Sandi Toksvig, digrifwraig
  • Tywysoges Takamado o Japan
  • Renee Winegarten, dadansoddwraig lenyddol
  • Barbara Adam Wootton, gwyddonwraig gymdeithasol ac ac economegwraig
  • Dorothy Wrinch, biolegwraig fathemategol
  • Grace Chisholm Young, mathemategwraig
  • Derek Walcott, Bardd, awdur, artist
  • Gwyneth Lewis, barddes ac awdyres Cymreig dwyieithog