Saeson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Marnanel (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
JAnDbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar:إنجليز
Llinell 22: Llinell 22:
[[Categori:Lloegr]]
[[Categori:Lloegr]]


[[ar:إنجليز]]
[[bat-smg:Onglā]]
[[bat-smg:Onglā]]
[[cs:Angličané]]
[[cs:Angličané]]

Fersiwn yn ôl 16:17, 2 Hydref 2008

Saeson
Cyfanswm poblogaeth
90 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
DU: 45 miliwnYr Unol Daleithiau: 28 miliwnCanada: 6 miliwnAwstralia: 6 miliwn
Ieithoedd
Saesneg
Crefydd
Cristnogaeth, arall, dim
Grwpiau ethnig perthynol
Americaniaid, Canadiaid, Awstraliaid, a phobloedd Saesneg eraill. Hefyd Ffrisiaid, Iseldirwyr, Almaenwyr, Llychlynwyr

Y Saeson yw'r grŵp ethnig a chenedl a gysylltir a Lloegr yn bennaf, er fod nifer sylweddol ohonynt yn byw mewn gwledydd eraill hefyd.

Mae'r enw "Saeson" yn Gymraeg yn dod o enw llwyth y Sacsoniaid. Ond dim ond un o sawl llwyth o bobl Germanaidd a ddaeth i Brydain o ddiwedd y 5ed ganrif ymlaen oedd y Sacsoniaid. Gyda'r llwythau eraill fe'i elwir yn Eingl-Sacsoniaid gan haneswyr. Mae'r gair 'Eingl-Sacsonaidd' yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr iaith Saesneg fel ansoddair cyfystyr â 'Seisnig' neu 'Saesneg', e.e. the Anglo-Saxon world am y gwledydd lle siaredir Saesneg. Defnyddir yr elfen arall yn y gair hwnnw, sef 'Eingl' (enw llwyth arall), i gyfeirio at Loegr a phethau Seisnig hefyd. Mae'n cael ei ymestyn yn aml yn Saesneg i gyfeirio at Brydain ei hun. e.e. mae'n arfer sôn am Anglo-French yn y cyfryngau Saesneg wrth gyfeirio at Brydain a Ffrainc. Daw'r gair English o'r enw Eingl/Angle.

Yng Nghymru, defnyddir y term 'Saeson' yn yr iaith lafar yn aml i gyfeirio at bobl Saesneg eu iaith, neu ddi-Gymraeg, yn hytrach na phobl sy'n dod yn benodol o Loegr. Ond mae rhai pobl yn meddwl bod hyn yn sarhaus, fel dweud ei bod hi'n amhosib i fod yn Gymro/-aes go iawn heb fedru siarad y Gymraeg. Er hynny, ceir enghraifft gynnar iawn o 'Sais' fel ansoddair yn yr ystyr "rhywun sy'n medru siarad Saesneg" yn llysenw'r bardd Elidir Sais (fl. cyfnod Llywelyn Fawr).


Eginyn erthygl sydd uchod am Loegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.