Sylffwr deuocsid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ms:Sulfur dioksida
Llinell 28: Llinell 28:
[[mk:Сулфур диоксид]]
[[mk:Сулфур диоксид]]
[[mr:सल्फर डायॉक्साईड]]
[[mr:सल्फर डायॉक्साईड]]
[[ms:Sulfur dioksida]]
[[nl:Zwaveldioxide]]
[[nl:Zwaveldioxide]]
[[no:Svoveldioksid]]
[[no:Svoveldioksid]]

Fersiwn yn ôl 22:54, 27 Medi 2008

Nwy di-liw yw sylffwr deuocsid (SO2) ag iddo arogl treiddgar, taglyd. Prif ffynhonnell sylffwr deuocsid yw llosgi tanwydd ffosil mewn gorsafoedd pwer, purfeydd olew a gweithfeydd diwydiannol mawrion eraill a reoleiddir gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Y sector tanwydd ag ynni yw’r ffynhonnell fwyaf o bell ffordd o sylffwr deuocsid o weithgareddau a reoleiddir gan yr Asiantaeth a’r sector hwn hefyd yw’r ffynhonnell genedlaethol fwyaf, gan gyfrannu 73% o’r cyfanswm cenedlaethol. Mae cerbydau modur, bwyleri a thanau mewn cartrefi hefyd yn rhyddhau sylffwr deuocsid.

Gall sylffwr deuocsid lidio’r llygaid a’r pibellau awyr, ac yn y crynoadau amgylcheddol uchaf medrant gynyddu symptomau’r rheini sy’n dioddef o asthma neu glefyd yr ysgyfaint. Gall sylffwr deuocsid hefyd arwain at effeithiau uniongyrchol ar lystyfiant a chyfrannu at law asid. Medrir cludo sylffwr deuocsid dros bellter maith a gall hyd at draean o’r sylffwr a waddodir mewn rhai mannau yn y DU ddeillio o ffynonellau ar y cyfandir.