Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth Wyn (sgwrs | cyfraniadau)
mwy
Gareth Wyn (sgwrs | cyfraniadau)
mwy
Llinell 45: Llinell 45:


==Sut mae golygu tudalen?==
==Sut mae golygu tudalen?==
Ar Wicipedia, mae tudalennau yn cael eu ysgrifennu mewn côd arbennig. Peidiwch poeni, dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu! Er enghraifft, mae cysylltiadau mewnol yn cael eu dynodi gyda <nowiki>[[cromfachau sgwâr dwbl]]</nowiki>. Am esboniad manwl o'r côd wici, gweler ''[[Wicipedia:Sut i olygu tudalen]]''.


==Sut mae creu tudalen?==
==Sut mae creu tudalen?==
Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl i chi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y databas.

Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a cliciwch '''Ewch'''. Ar y sgrîn chwilio, fe fydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.


==Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair.==
==Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair.==

Fersiwn yn ôl 21:47, 14 Chwefror 2006

Ar y dudalen hon gallwch gael atebion i gwestiynau sy'n cael eu codi'n aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r dudalen cymorth.

Beth yw wici?

Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cydgysylltu. Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolennau i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.

Beth yw Wicipedia?

Mae Wicipedia yn ymgais i greu gwyddoniadur Cymraeg ar y we sydd ar gael i bawb. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg wreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth darllenwch Ynglŷn â Wicipedia.

Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?

Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y Wiciadur. Mae'r cyllid yn dod o gyrchoedd codi arian blynyddol.

Byddai ymgyrchoedd yn well na cyrchoedd Dyfrig 11:50, 11 Chwefror 2006 (UTC)[ateb]

O ran erthyglau'r safle, does dim hawlfraint ganddynt, o leia nid yn y modd arferol. Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU, sydd yn golygu y gall unrhywun gopïo'r deunydd yma, gyda chydnabyddiaeth. Gweler Wicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.

Sut alla i gysylltu â'r prosiect?

Mae yna sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r Caffi ac ychwanegwch nodyn yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch nodyn ar ei dudalen sgwrs; fe fydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosib fod y defnyddiwr wedi cantiatáu i chi anfon e-byst ato; os felly fe fydd cysylltiad i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.

Y Sylfaen Wicimedia sydd yn rhedeg Wicipedia. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â Meta-Wiki, sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.

A ddylwn i gofrestru cyn golygu?

Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler Wicipedia:Cofrestru.

Sut allwch chi fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?

Gall unrhyw un olygu unrhyw erthygl, felly wrth gwrs mae'n bosib y gall rhywun ychwanegu gwybodaeth anghywir. Ar y llaw arall, mae eraill yn cadw llygad barcud ar yr erthyglau, gan ddefnyddio'u rhestr gwylio, neu'r dudalen 'Newidiadau Diweddar'. Mae gwybodaeth anghywir fel rheol felly yn cael ei gywiro'n gyflym. Mae'r broses hon yn gwella wrth i fwy o bobl ymuno. Fe'ch annogir i roi help llaw trwy gywiro erthyglau a rhoi cyfeiriadau defnyddiol.

Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?

Y ffordd symlaf yw i deipio'r pwnc yn y blwch 'chwilio' i'r chwith o'r dudalen, a clicio ar 'Chwilio'. Gallwch hefyd ddefnyddio Google: dilynwch y cysylltiad hwn i chwilio drwy Wicipedia yn Gymraeg, ond cofiwch nad yw Google yn cynnwys y diwygiadau diweddaraf.

Gweler Wicipedia:Chwilio am fwy o wybodaeth.

Pam fod ambell i dudalen yn las, a'r gweddill yn wyn?

Oherwydd fod gwahanol mathau o dudalennau i gael. Mae'r prif erthyglau ar gefndir gwyn, tra bod tudalennau eraill, fel tudalennau sgwrs, tudalennau arbennig a thudalennau cymorth (fel hon) yn las, er mwyn dangos nad erthyglau go iawn ydynt. I weld mwy am y gwahanol mathau o dudalennau, gweler Wicipedia:Parthau.

Mae 'tudalen ar hap' wastad yn rhoi dyddiad neu flwyddyn i fi!

Beth amser yn ôl, fe ychwanegwyd nifer fawr o erthyglau am ddyddiadau yn awtomatig. Hyd hyn, mae'r rhain yn gyfran fawr o'r holl dudalennau. Fe ddaw erthyglau eraill i'r amlwg wrth i'r nifer o erthyglau godi. Ar hyn o bryd mae 280,393 erthygl yn y databas.

Mae safon yr iaith yn wael yma.

Ar hyn o bryd, dysgwyr Cymraeg sy'n cyfrannu fwyaf i'r safle, gydag ychydig o Gymry iaith cyntaf yn cywiro unrhyw wallau sy'n codi. Dim ond trwy gael mwy o siaradwyr rhugl gall safon yr iaith godi, felly peidiwch rhoi'r gorau iddi!

Os ydych chi'n dod ar draws gwall ieithyddol yn rhyngwyneb y safle, codwch y mater yn y Caffi, fel bod un o'r gweinyddwyr yn gallu cywiro'r neges briodol. Os oes gwall mewn erthygl, ewch ati i'w gywiro (gweler isod).

Dwi wedi darganfod gwall mewn erthygl! Beth wna i?

Clicio ar golygu ar frig y dudalen, a cywiro'r gwall. Does dim ots os wnewch chi gamgymeriad, fe fydd eraill wastad yn gallu cymenu ar eich ôl.

Os ydych chi am brofi eich sgiliau golygu cyn gwneud newidiadau i unrhyw dudalen go iawn, chwaraewch yn y blwch tywod, lle gallwch arbrofi sut mae golygu tudalen.

Sut mae golygu tudalen?

Ar Wicipedia, mae tudalennau yn cael eu ysgrifennu mewn côd arbennig. Peidiwch poeni, dyma'r peth hawsaf yn y byd i'w ddysgu! Er enghraifft, mae cysylltiadau mewnol yn cael eu dynodi gyda [[cromfachau sgwâr dwbl]]. Am esboniad manwl o'r côd wici, gweler Wicipedia:Sut i olygu tudalen.

Sut mae creu tudalen?

Os ydych chi'n dod ar draws cysylltiad coch, trwy glicio arni byddwch yn cyrraedd sgrîn golygu ar gyfer yr erthygl honno. Ar ôl i chi ysgrifennu digon am y pwnc, bydd cadw'r dudalen yn ei chreu ar y databas.

Os ydych chi am greu erthygl heb orfod darganfod cysylltiad coch iddi, teipiwch y teitl i'r blwch chwilio ar y chwith, a cliciwch Ewch. Ar y sgrîn chwilio, fe fydd cysylltiad coch yn arwain i'r sgrîn golygu ar gyfer y dudalen arfaethedig.

Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair.