Cantref Gwarthaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Cyfeiriadau: cywirio'r ddolen ryngwici |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Yr oedd [[cantref]] '''Gwarthaf''' yn un o saith gantref [[teyrnas Dyfed]] yn yr [[Oesoedd Canol]]. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn |
Yr oedd [[cantref]] '''Gwarthaf''' yn un o saith gantref [[teyrnas Dyfed]] yn yr [[Oesoedd Canol]]. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn rhan o dde-ddwyrain [[Sir Benfro]] a gorllewin [[Sir Gaerfyrddin]] heddiw. |
||
Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan [[Bae Caerfyrddin]]. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi [[Penfro (cantref)|Penfro]] a [[Daugleddau (cantref)|Daugleddau]], i'r gogledd ag [[Uwch Nyfer]] yng nghantref [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]] a chantref [[Emlyn (cantref)|Emlyn]], ac i'r dwyrain â chwmwd [[Gwidigada]] yn y [[Cantref Mawr]] a chwmwd [[Cydweli (cantref)|Cydweli]] yng nghantref [[Eginog]]. |

Llinell 21: | Llinell 21: | ||
*J. E. Lloyd, ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, 1937) |
*J. E. Lloyd, ''A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, 1937) |
||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Cantrefi a chymydau Cymru]] |
|||
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
[[Categori:Cantrefi Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 20:02, 22 Medi 2008
Yr oedd cantref Gwarthaf yn un o saith gantref teyrnas Dyfed yn yr Oesoedd Canol. Mae ei diriogaeth yn gorwedd yn rhan o dde-ddwyrain Sir Benfro a gorllewin Sir Gaerfyrddin heddiw.
Roedd Gwarthaf yn ardal ffrwythlon ar lan Bae Caerfyrddin. I'r gorllewin ffiniai â chantrefi Penfro a Daugleddau, i'r gogledd ag Uwch Nyfer yng nghantref Cemais a chantref Emlyn, ac i'r dwyrain â chwmwd Gwidigada yn y Cantref Mawr a chwmwd Cydweli yng nghantref Eginog.
Rhywbryd yn ystod yr Oesoedd Canol, rhanwyd cantref Gwarthaf yn wyth cwmwd, sef :
Roedd canolfannau pwysicaf Gwarthaf yn cynnwys Arberth, safle un o lysoedd pwysicaf Dyfed y cyfeirir ato yn y Pedair Cainc, a Chaerfyrddin, fu'n ganolfan bwysig ers dyddiau'r Rhufeiniaid. Yno hefyd ceir llys brenhinol hynafol yr Hendy-gwyn ar Daf, a oedd yn ogystal yn lleoliad clas cynnar ac yn ddiweddarach yn ganolfan i'r Sistersiaid yng Nghymru.
Ymhlith ei ganolfannau eglwysig ceir Llan Deulyddog yn nhref Caerfyrddin, un o saith esgobdai Cymru'r Oesoedd Canol : ysgrifenwyd Llyfr Du Caerfyrddin yno yn ôl pob tebyg. Canolfan arall oedd Meidrym, eglwys gysylltiedig â chwlt Dewi Sant.
Cyfeiriadau
- J. E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, 1937)