Penrhyn (cwmwd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd '''Penrhyn'''. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas [[Te... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 6: | Llinell 6: | ||
Prif ganolfan y cwmwd oedd [[Llansteffan]], tref a sefydlwyd gan y [[Normaniaid]]. O'u castell yn y dref honno rheolai arglwyddi Llansteffan yr arglwyddiaeth o'r un enw, a oedd yn cynnwys hefyd cwmwd Derllys. Wedi ei gipio o ddwylo tywysogion Deheubarth, roedd yr arglwyddiaeth ym meddiant y teulu Carnville Normanaidd. |

== Gweler hefyd== |
|||
* [[Cantrefi a chymydau Cymru]] |
|||
* [[Cantref Gwarthaf]] |
|||
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
[[Categori:Cymydau Cymru]] |
Fersiwn yn ôl 19:35, 22 Medi 2008
Un o wyth cwmwd canoloesol Cantref Gwarthaf yn ne-orllewin Cymru oedd Penrhyn. Yn wreiddiol yn rhan o deyrnas Dyfed, daeth yn rhan o deyrnas Deheubarth. Heddiw mae tiriogaeth y cwmwd yn gorwedd yn ne-orllewin Sir Gaerfyrddin.
Gorweddai Penrhyn yn ne-ddwyrain Cantref Gwarthaf gydag Afon Tywi yn gorwedd rhyngddo a chantref Cydweli dros yr afon i'r dwyrain. Roedd aber Afon Taf yn dynodi'r ffin orllewinol rhwng Penrhyn a chwmwd Talacharn. I'r gogledd gorweddai cymydau Ystlwyf a Derllys. Roedd yn ffurfio penrhyn naturiol rhwng aberodd Tywi a Thaf, felly, a dyna sut y cafodd ei enw.
Prif ganolfan y cwmwd oedd Llansteffan, tref a sefydlwyd gan y Normaniaid. O'u castell yn y dref honno rheolai arglwyddi Llansteffan yr arglwyddiaeth o'r un enw, a oedd yn cynnwys hefyd cwmwd Derllys. Wedi ei gipio o ddwylo tywysogion Deheubarth, roedd yr arglwyddiaeth ym meddiant y teulu Carnville Normanaidd.