Morisgiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B robot yn newid: fr:Morisques |
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: uk:Мориски |
||
Llinell 31: | Llinell 31: | ||
[[sr:Морискоси]] |
[[sr:Морискоси]] |
||
[[sv:Morisco]] |
[[sv:Morisco]] |
||
[[uk:Мориски]] |
Fersiwn yn ôl 23:27, 21 Medi 2008
Mwslemiaid a orfodwyd i gyffesu Cristnogaeth ar ôl i frenhinoedd Castille oresgyn teyrnasoedd Mwslemaidd Al-Andalus yn ne Sbaen ar ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd y Morisgiaid (Sbaeneg, enw unigol, Morisco).
Roedd nifer o Fwslemiaid yn ardaloedd fel Andalucia yn dal i fyw yn Sbaen ar ôl y goresgyniad. Yn ystod y 15fed ganrif fe'u gorfodwyd i dderbyn Cristnogaeth neu ffoi i alltudiaeth. Dewisai nifer aros yn Sbaen a chyffesu Cristnogaeth yn gyhoeddus tra'n proffesu Islam yn eu tai. Ar ddechrau'r 16eg ganrif penderfynodd llywodraeth Sbaen eu troi nhw allan o'r wlad ac rhwng 1609 a 1614 gorfodwyd tua 500,000 ohonyn nhw i ffoi. Ymsefydlodd y mwyafrif yn y Maghreb (gogledd Affrica). Gwnaethent gyfraniad arbennig i ddiwylliant y gwledydd hynny, yn arbennig yn Tunisia, gan ddod â cherddoriaeth a phensaernïaeth arbennig gyda nhw, ffrwyth y croesffrwythloni rhwng y traddodiadau Islamaidd a Christnogol yn ne Sbaen.