Jamaica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Columbus a'i griw: Ardddull a manion cyffredinol, replaced: pan yr oedd → pan oedd using AWB
Jac-y-do (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
|math symbol = Arfbais
|math symbol = Arfbais
|erthygl_math_symbol = Arfbais
|erthygl_math_symbol = Arfbais
|arwyddair_cenedlaethol = ''Out of many, one people'' <br>("Allan o lawer, un bobl"
|arwyddair_cenedlaethol = ''Out of many, one people'' <br><small>("Allan o lawer, un bobl")
|anthem_genedlaethol = ''[[Jamaica, Land We Love]]''<br>(Anthem frenhinol: ''[[God Save the Queen]]'')
|anthem_genedlaethol = ''[[Jamaica, Land We Love]]''<br>(Anthem frenhinol: ''[[God Save the Queen]]'')
|delwedd_map = LocationJamaica.svg
|delwedd_map = LocationJamaica.svg

Fersiwn yn ôl 23:12, 23 Tachwedd 2017

Jamaica
Baner Jamaica Arfbais Jamaica
Baner Arfbais
Arwyddair: Out of many, one people
("Allan o lawer, un bobl")
Anthem: Jamaica, Land We Love
(Anthem frenhinol: God Save the Queen)
Lleoliad Jamaica
Lleoliad Jamaica
Prifddinas Kingston
Dinas fwyaf Kingston
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg
Llywodraeth Democratiaeth seneddol
- Teyrn Elisabeth II
- Llywodraethwr Cyffredinol Patrick Allen
- Prif Weinidog Portia Simpson-Miller
Annibyniaeth
- Dyddiad
oddiwrth y DU
6 Awst 1962
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
10,991 km² (166ain)
1.5
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2005
 - Dwysedd
 
2,651,000 (138ain)
241.2/km² (49ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2005
$11.69 biliwn (131ain)
$4,3000 (113eg)
Indecs Datblygiad Dynol (2004) 0.724 (104ydd) – canolig
Arian cyfred Doler Jamaica (JMD)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-5)
Côd ISO y wlad .jm
Côd ffôn +1-876

Gwlad ac ynys yn y Môr Caribî yw Jamaica. Mae'r gwledydd cyfagos yn cynnwys Cuba i'r gogledd, Ynysoedd Cayman i'r gogledd-ddwyrain ac Haiti i'r dwyrain.

Daw'r enw Jamaica o'r iaith frodorol, a'i ystyr yw Ynys y Ffynhonnau.

Hanes

Brodorion Jamaica

Daeth trigolion cynharaf Jamaica o ynysoedd dwyreiniol y Caribî, o debyg mewn dau gyfnod ymfudo. Tua'r flwyddyn 600, cyrhaeddodd y bobl Redware, adnabyddir o'u priddlestri coch. Tua 800, daeth y Taino i'r ynys, pobl Arawaceg eu hiaith. Ymsefydlasant ar draws Jamaica, a sefydlasant economi ar sail pysgota, indrawn, a casafa. Trigant mewn pentrefi dan arweiniad penaethiaid.

Columbus a'i griw

Christopher Columbus oedd yr Ewropead cyntaf i ddarganfod yr ynys, a hynny ar 3 Mai 1494 tra'n morio gororau deheuol Ciwba, yn ystod ei ail fordaith i'r Amerig. Efe a'i galwodd yn Sant Iago, er anrhydedd i nawddsant Sbaen. Glaniodd yn Ora Cahessa, a threchodd y brodorion i gymryd meddiant o'r ynys yn enw brenin Sbaen. Wedi aros am dymor byr, gadawodd Columbus Jamaica. Ym Mehefin 1503, pan oedd ar ei bedwaredd fordaith, a'r olaf, fe'i goddiweddwyd ef gan dymestl fawr: collwyd dwy o'i longau ar lannau Jamaica, a chafoddy morwyr y caredigrwydd mwyaf gan y brodorion. Arhosodd Columbus yno am ragor na blwyddyn, i ddisgwyl am ddychweliad y cenhadon aanfonasai efe at Ovando, llywodraethwr Hispañola, fel y gelwid Ciwba pryd hwnnw. Yn ystod yr amser hwnnw, efe a ddioddefodd gan afiechyd,yn ogystal ag oddi wrth derfysg ym mysg ei ddilynwyr, ymddygiad gwarthus pa rai a wnaeth yr Indiaid yn elynion, ac a barodd iddynt atal ymborth ac angenrheidiau oddi wrthynt, hyd nes y darfu i Columbus eu gormesu.

Daearyddiaeth

Gorweddir yr ynys yng Nghulfor Honduras, rhwng Môr y Caribî a Gwlff Mecsico, 80 milltir i dde Ciwba, 90 milltir i orllewin Hispañola, a 515 milltir i ogledd Chagres, yn Lleindir Panama. Jamaica yw'r fwyaf dehuol o'r swp aelwir yr Antilles Fwyaf, yr Ynysoedd Cyfwerwyntol.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.