Wicipedia:Cwestiynau Cyffredin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth Wyn (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 24: Llinell 24:
Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler [[Wicipedia:Cofrestru]].
Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler [[Wicipedia:Cofrestru]].


==Sut allwch chi fod yn sicr fod y gwybodaeth yn wir?==
==Sut allwch chi fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?==


==Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?==
==Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?==

Fersiwn yn ôl 12:38, 10 Chwefror 2006

Ar y dudalen hon gallwch gael atebion i gwestiynau sy'n cael eu codi'n aml gan ddefnyddwyr y safle. Ar gyfer mwy o gymorth, ewch i'r dudalen cymorth.

Beth yw Wici?

Mae wici yn gasgliad o dudalennau gwe sydd wedi'u cydgysylltu. Gall unrhywun olygu unrhyw dudalen (gydag eithriadau), gan ychwanegu dolennau i dudalennau eraill ar y safle. Yn wir, dyma hanfod y syniad o wici: bod mwy a mwy o gysylltiadau yn creu rhwydwaith eang o dudalennau.

Beth yw Wicipedia?

Mae Wicipedia yn ymgais i greu gwyddoniadur Cymraeg ar y we sydd ar gael i bawb. Cychwynnodd y fersiwn Saesneg wreiddiol yn 2001, gyda'r fersiwn Gymraeg yn dilyn yn 2003. Am fwy o wybodaeth darllenwch Ynglŷn â Wicipedia.

Pwy sy'n berchen ar Wicipedia?

Rheolir Wicipedia gan gwmni di-elw, y Sylfaen Wicimedia. Mae'r cwmni hefyd yn rheoli chwaer-brosiectau Wicipedia, gan gynnwys y Wiciadur. Mae'r cyllid yn dod o gyrchoedd codi arian blynyddol.

O ran erthyglau'r safle, does dim hawlfraint ganddynt, o leia nid yn y modd arferol. Rhyddheir pob dogfen o dan Drwydded Dogfennaeth Rhydd GNU, sydd yn golygu y gall unrhywun gopïo'r deunydd yma, gyda chydnabyddiaeth. Gweler Wicipedia:Hawlfraint am fwy o fanylion.

Sut alla i gysylltu â'r prosiect?

Mae yna sawl ffordd i gysylltu â phobl sy'n gysylltiedig â Wicipedia. Os ydych am ofyn cwestiwn cyffredinol, ewch i'r Caffi ac ychwanegwch nodyn yno. Os ydych chi am gysylltu ag unigolyn yn uniongyrchol, gadewch nodyn ar ei dudalen sgwrs; fe fydd y nodyn yn weladwy i bawb. Ar y llaw arall os ydych am anfon neges breifat, mae'n bosib fod y defnyddiwr wedi cantiatáu i chi anfon e-byst ato; os felly fe fydd cysylltiad i'r chwith o'i dudalen defnyddiwr.

Y Sylfaen Wicimedia sydd yn rhedeg Wicipedia. Os ydych am gysylltu â nhw, gallwch ymweld â Meta-Wiki, sy'n cydgysylltu'r prosiectau i gyd.

A ddylwn i gofrestru cyn golygu?

Does dim rhaid gwneud, ond mae yna fanteision. Os ydych chi'n bwriadu cyfrannu'n gyson yma, mae'n syniad da agor cyfrif, gan nad yw defnyddwyr anhysbys yn cael cychwyn tudalennau newydd, eu hail-enwi, nac uwchlwytho lluniau. I weld rhestr o fanteision eraill, gweler Wicipedia:Cofrestru.

Sut allwch chi fod yn sicr fod y wybodaeth yn gywir?

Sut ydw i'n chwilio Wicipedia?

Pam fod ambell i dudalen yn las, a'r gweddill yn wyn?

Mae 'tudalen ar hap' wastad yn rhoi dyddiad neu flwyddyn i fi!

Mae safon yr iaith yn wael yma.

Dwi wedi darganfod gwall mewn erthygl! Beth wna i?

Sut mae golygu tudalen?

Sut mae creu tudalen?

Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair.