Hen Wlad fy Nhadau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ja:我が父祖の土地
chydig chwaneg
Llinell 1: Llinell 1:
'''Hen Wlad fy Nhadau''' yw anthem genedlaethol [[Cymru]]. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan [[Evan James]] (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab [[James James]] (1833-1902) ym mis Ionawr [[1856]]. Roedd y ddau yn drigolion o [[Pontypridd|Bontypridd]].
'''Hen Wlad fy Nhadau''' yw anthem genedlaethol [[Cymru]]. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan [[Evan James]] (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab [[James James]] (1833-1902) ym mis Ionawr [[1856]]. Roedd y ddau yn drigolion o [[Pontypridd|Bontypridd]].


Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi.
Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, [[Maesteg]] unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn [[Eisteddfod]] [[Llangollen]], [[1858]], ar ôl i [[Thomas Llewelyn]] o [[Aberdâr]] ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn [[Rhuthun]] y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.


Gwnaed y recordiad [[Cymraeg]] cyntaf, sydd yn hysbys, yn [[Llundain]] ar 11 [[Mawrth]] [[1899]], pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].
Gwnaed y recordiad [[Cymraeg]] cyntaf, sydd yn hysbys, yn [[Llundain]] ar 11 [[Mawrth]] [[1899]], pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]].


Defnyddir fersiynau o’r anthem gan [[Cernyw|Gernyw]], ''Bro goth agan tasow'' ac yn [[Llydaw]], ''Bro Gozh ma Zadoù''. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn [[India]] yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw ''Ri Khasi'', ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.
Defnyddir fersiynau o’r anthem gan [[Cernyw|Gernyw]], ''Bro goth agan tasow'' ac yn [[Llydaw]] ers [[1902]], ''Bro Gozh ma Zadoù''. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn [[India]] yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw ''Ri Khasi'', ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.

Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan [[Tich Gwilym]] yn null Jimi Hendrix.

Ffilmiwyd ymdrechion tila [[John Redwood]] i'w chanu - ymdrech i gogio ei fod yn gwybod y geiriau, er nad oedd. Defnyddir y clip hwn yn aml fel esiampl o ddiffyg ymdrech rhai Saeson i gymhathu i'r bywyd Cymraeg.


==Geiriau==
==Geiriau==

Fersiwn yn ôl 05:29, 20 Medi 2008

Hen Wlad fy Nhadau yw anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifenwyd geiriau'r anthem gan Evan James (1809-1878), a chyfansoddwyd y dôn gan ei fab James James (1833-1902) ym mis Ionawr 1856. Roedd y ddau yn drigolion o Bontypridd.

Perfformiwyd y gân, neu Glan Rhondda fel y gelwid hi’n wreiddiol, am y tro cyntaf yn festri Capel Tabor, Maesteg unai ym mis Ionawr neu Chwefror, 1856 gan gantores leol, Elizabeth John, ac wedi hynny, daeth y gân yn boblogaidd drwy'r ardal. Daeth hi'n fwy adnabyddus fyth yn Eisteddfod Llangollen, 1858, ar ôl i Thomas Llewelyn o Aberdâr ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig oedd heb eu cyhoeddi. Yn Rhuthun y cafodd ei hargraffu yn gyntaf - yn yr adeilad du-a-gwyn a ddefnyddir heddiw yn gaffi 'Siop Nain'.

Gwnaed y recordiad Cymraeg cyntaf, sydd yn hysbys, yn Llundain ar 11 Mawrth 1899, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Ymhlith y caneuon roedd yr anthem genedlaethol, a gwnaed y recordiad gwreiddiol ar ddisg unochrog 7 modfedd ac mae copi o’r anthem yn dal i oroesi hyd heddiw, ac yn rhan o gasgliadau y Llyfrgell Genedlaethol.

Defnyddir fersiynau o’r anthem gan Gernyw, Bro goth agan tasow ac yn Llydaw ers 1902, Bro Gozh ma Zadoù. Mae’n debyg fod fersiwn i’w chael yn India yn ogystal. Mae pobl y Khasi, yng ngogledd ddwyrain y wlad wedi mabwysiadu ein hanthem ni fel un eu hunain. Enw eu hanthem yw Ri Khasi, ac aiff y traddoddiad nôl i’r 1800au, pan aeth cenhadon meddygol Cymraeg drosodd i’r ardal.

Yn y 1970au cafwyd fersiwn roc ohoni gan Tich Gwilym yn null Jimi Hendrix.

Ffilmiwyd ymdrechion tila John Redwood i'w chanu - ymdrech i gogio ei fod yn gwybod y geiriau, er nad oedd. Defnyddir y clip hwn yn aml fel esiampl o ddiffyg ymdrech rhai Saeson i gymhathu i'r bywyd Cymraeg.

Geiriau

Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.
Cytgan
Gwlad, Gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad.
Tra môr yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Cytgan
Os treisiodd y gelyn fy ngwlad tan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Cytgan


Cyfeiriadau