Y Mudiad Celf a Chrefft: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: sk:Arts and Crafts
Abaty Ynys Byr
Llinell 5: Llinell 5:
====Enghreifftiau o bensaernïaeth arddull Celf a Chrefft yng Nghymru====
====Enghreifftiau o bensaernïaeth arddull Celf a Chrefft yng Nghymru====
*Elan Village, [[Powys]] (Pentref a gynllunwyd i gartrefu gweithwyr oedd yn adeiladu [[Cronfa ddŵr|cronfeydd dŵr]] [[Cwm Elan]])
*Elan Village, [[Powys]] (Pentref a gynllunwyd i gartrefu gweithwyr oedd yn adeiladu [[Cronfa ddŵr|cronfeydd dŵr]] [[Cwm Elan]])
*Mynachlog Sistersaidd [[Ynys Bŷr]], [[Sir Benfro]]. Cynlluniwyd gan John Coates Carter
*Neuadd Aber Artro, [[Llanbedr, Ardudwy|Llanbedr]], [[Gwynedd]]
*Neuadd Aber Artro, [[Llanbedr, Ardudwy|Llanbedr]], [[Gwynedd]]
*Tŷ Bronna, [[Y Tyllgoed]], [[Caerdydd]]. Cynlluniwyd gan C. F. A. Voysey o 1903 i 1906
*Tŷ Bronna, [[Y Tyllgoed]], [[Caerdydd]]. Cynlluniwyd gan C. F. A. Voysey o 1903 i 1906

Fersiwn yn ôl 07:51, 16 Medi 2008

Mudiad esthetig Prydeinig ac Americanaidd o flynyddoedd olaf y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif oedd y Mudiad Celf a Chrefft (Saesneg: Arts and Crafts Movement). Cafodd ei ysbrydoli gan ysgrifau John Ruskin a'r delfrydu rhamantaidd o'r crefftwr yn cymryd balchder yn ei waith llaw ei hun. Roedd ar ei anterth rhwng tua 1880 ac 1910.

Roedd yn fudiad diwygio a ddylanwadodd ar bensaernïaeth, celf addurnol, gwneuthuriaeth dodrefn, dylunio tu mewn, a chrefftau Prydeinig ac Americanaidd, ac hefyd hyd yn oed dyluniadau gerddi "bwthyn" William Robinson neu Gertrude Jekyll. Cafodd y steil ei arddel gan William Morris, Charles Robert Ashbee, T. J. Cobden Sanderson, Walter Crane, Nelson Dawson, Phoebe Anna Traquair, Herbert Tudor Buckland, Charles Rennie Mackintosh, Christopher Dresser, Edwin Lutyens, William De Morgan, Ernest Gimson, William Lethaby, Edward Schroeder Prior, Frank Lloyd Wright, Gustav Stickley, Greene & Greene, Charles Francis Annesley Voysey, a Christopher Whall.

Enghreifftiau o bensaernïaeth arddull Celf a Chrefft yng Nghymru

Dolenni allanol