Mynydd Hiraethog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
llun (ffynhonell: http://www.geograph.co.uk/photo/181786 dan drwydded Creative Commons) |
B robot yn ychwanegu: en:Mynydd Hiraethog |
||
Llinell 11: | Llinell 11: | ||
[[Categori:Sir Ddinbych]] |
[[Categori:Sir Ddinbych]] |
||
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Cymru]] |
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Cymru]] |
||
[[en:Mynydd Hiraethog]] |
Fersiwn yn ôl 15:10, 11 Medi 2008
Mae Mynydd Hiraethog yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng Afon Conwy ac Afon Clwyd, yn Sir Ddinbych a Sir Conwy.
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o Fynyddoedd y Cambria. Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu Grugiar yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif, ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o Oes yr Efydd. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw Llyn Alwen, Llyn Brenig a Chronfa Aled Isaf.