Gwynfardd Brycheiniog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
|||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Cerddi== |
==Cerddi== |
||
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. |
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Mae'r [[awdl]] i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i [[Dewi Sant|Ddewi Sant]] yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y [[Gogynfeirdd]] a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y [[sant]] yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o [[Buchedd Dewi|fuchedd y sant]], fel [[Senedd Llanddewibrefi]], a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys [[Llanddewibrefi]]. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y [[clas]]au a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.<ref name="Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif 1994"/> |
||
Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref name="Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif 1994"/> |
Ceir testunau'r cerddi hyn yn [[Llawysgrif Hendregadredd]] mewn llaw a briodolir i gopïydd o [[Abaty Ystrad Fflur]] (tua [[1300]]). Digwydd yr awdl i Ddewi yn [[Llyfr Coch Hergest]] yn ogystal.<ref name="Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif 1994"/> |
Fersiwn yn ôl 09:35, 17 Tachwedd 2017
Gwynfardd Brycheiniog (fl. 1170au) yw'r cynharaf o Feirdd y Tywysogion o ddeheubarth Cymru y gwyddys ei enw a'r unig un ohonynt a hanfyddai o'r de-ddwyrain. Canodd i'r Arglwydd Rhys o Ddeheubarth ac mae'n debygol ei fod wedi cymryd rhan yn Eisteddfod Aberteifi, 1176.[1]
Bywgraffiad
Ychydig a wyddys amdano ac eithrio ei enw a'r hyn y gellir casglu o dystiolaeth y ddwy gerdd ganddo sydd wedi goroesi. Ymddengys fod ei enw yn efelychiad o enw bardd cynharach o'r De, sef Gwynfardd Dyfed. Roedd y Gwynfardd hwnnw yn dad i Guhelyn Fardd, un o gyndeidiau Dafydd ap Gwilym. Awgrym arall ynglŷn â'r enw yw ei fod yn cyfeirio at degwch (un ystyr gwyn) awen y bardd neu at y ffaith ei fod yn perthyn i urdd eglwysig (ystyr arall gwyn/gwen fel ansoddair Cymraeg Canol yw 'bendigaid'). Mae'r epithet Brycheiniog yn dangos ei fod yn hannu o'r ardal honno; ategir hyn gan y wybodaeth fanwl am eglwysi Brycheiniog a welir yn ei awdl i Ddewi Sant. Mae cyfeiriadau eraill yn yr awdl honno yn dangos ei fod wedi ymweld â Tyddewi a hefyd â Gwynedd, efallai.[1]
Cerddi
Dwy gerdd yn unig o waith Gwynfardd Brycheiniog sydd wedi goroesi (cyfanswm o 346 o linellau), sef 'Mawl yr Arglwydd Rhys' a 'Canu i Ddewi'. Mae'r awdl i'r Arglwydd Rhys yn gân seciwlar ddigon confensiynol sy'n moli dewrder y noddwr. Mae'r awdl i Ddewi Sant yn fwy diddorol. Mae'n un o dair cerdd i saint o gyfnod y Gogynfeirdd a'r unig un i Ddewi. Lledaenu bri y sant yw bwriad y gerdd a cheir nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau o fuchedd y sant, fel Senedd Llanddewibrefi, a gwyrthiau. Cyfeirir at nifer o eglwysi gysegredig i Ddewi, ym Mrycheiniog a'r de-orllewin, a'r un sy'n cael y sylw mwyaf yw eglwys Llanddewibrefi. Mae'r gerdd hir 296 llinell yn ffynhonnell hanesyddol bwysig ar gyfer ein gwybodaeth o natur y clasau a'r drefn eglwysig gynnar yng Nghymru.[1]
Ceir testunau'r cerddi hyn yn Llawysgrif Hendregadredd mewn llaw a briodolir i gopïydd o Abaty Ystrad Fflur (tua 1300). Digwydd yr awdl i Ddewi yn Llyfr Coch Hergest yn ogystal.[1]
Llyfryddiaeth
- 'Gwaith Gwynfardd Brycheiniog', yn K.A. Bramley, et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac Eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion', cyfrol II.
Cyfeiriadau