Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwydion fab Dôn"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 2 feit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
→‎Rhan Gwydion yn chwedl ''Math fab Mathonwy'': Manion, replaced: yr oedd → roedd using AWB
(→‎Rhan Gwydion yn chwedl ''Math fab Mathonwy'': Manion, replaced: yr oedd → roedd using AWB)
Ymhen amser syrthiodd Blodeuwedd mewn cariad â [[Gronw Pebr]], Arglwydd [[Penllyn]] a chynlluniodd y ddau sut i gael gwared â Lleu. Gwyddai Blodeuwedd na ellid lladd Lleu fel dyn cyffredin, a holodd ei gyfrinach gan gymryd arni ei bod yn poeni amdano. Dywedodd Lleu wrthi na ellid ei ladd os nad oedd yn gyntaf wedi ymolchi mewn cafn a tho arno ar lan afon, ac wedyn yn sefyll ar un troed ar ymyl y cafn a’r llall ar gefn bwch, a'i daro â gwaywffon. Roedd rhaid bod blwyddyn yn gwneuthur y waywffon a hynny adeg gwasanaeth y Sul yn unig.
 
Adroddodd Blodeuwedd y gyfrinach wrth Gronw a dechreuodd wneud y waywffon. Ymhen blwyddyn yr oeddroedd popeth yn barod. Roedd Blodeuwedd, Lleu a Gronw ar lan [[Afon Cynfal]] (ger [[Ffestiniog]] heddiw). Gofynnodd Blodeuwedd i Lleu ei hatgoffa sut y safai cyn y gellid ei ladd, a gwnaeth Lleu hyn heb wybod fod Gronw yn cuddio gerllaw.
 
Taflodd Gronw'r waywffon at Lleu a throwyd ef yn eryr a chyda bloedd ofnadwy hedodd i ffwrdd. Yn fuan wedyn priodwyd Gronw Pebr a Blodeuwedd a phan glywodd Gwydion am hyn penderfynodd fynd i weld beth a ddigwyddodd i Lleu. Gyda chymorth [[hwch]] daeth Gwydion o hyd i'w nai yn eistedd ar frigyn uchaf derwen. Meddyliodd ar unwaith mai Lleu oedd yr eryr a dechreuodd adrodd [[englynion]] wrtho, sef [[Englyn Gwydion]], nes iddo ddisgyn ar lin Gwydion. Yna trawodd yr aderyn â hudlath gan ddychwelyd Lleu Llaw Gyffes i'w ffurf ei hun, ond yn wael iawn ei wedd.
760,443

golygiad

Llywio