Francesco Petrarca: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 7: Llinell 7:
| pseudonym =
| pseudonym =
| birth_name =
| birth_name =
| birth_date = {{Birth date|1304|7|20}}
| birth_date = {{Birth date|df=y|1304|7|20}}
| birth_place = [[Arezzo]], [[yr Eidal]]
| birth_place = [[Arezzo]], [[yr Eidal]]
| death_date = {{Death date and age|1374|7|19|1304|7|20}}
| death_date = {{Death date and age|df=y|1374|7|19|1304|7|20}}
| death_place = [[Arquà Petrarca|Arquà]], [[yr Eidal]]
| death_place = [[Arquà Petrarca|Arquà]], [[yr Eidal]]
| resting_place =
| resting_place =

Fersiwn yn ôl 12:13, 15 Tachwedd 2017

Petrarch
Ganwyd(1304-07-20)20 Gorffennaf 1304
Arezzo, yr Eidal
Bu farw19 Gorffennaf 1374(1374-07-19) (69 oed)
Arquà, yr Eidal
DinasyddiaethEidalwr
MudiadDynaeddiaeth cyfnod y Dadeni Dysg

Bardd, awdur ac ysgolhaig Eidalaidd oedd Francesco Petrarca, hefyd Pertrarch (20 Gorffennaf 1304 - 19 Gorffennaf 1374). Ystyrir ef yn un o ffigyrau amlycaf y Dadeni Dysg yn yr Eidal a sylfaenydd Dyneiddiaeth.

Cafodd ei eni yn Arezzo. Roedd ei dad wedi ei alltudio o Fflorens gyda Dante fel un o arweinwyr y Welfiaid, a threuliodd Petrarca ei ieuenctod yn Avignon. Astudiodd ym Montpellier (1319-1323) cyn astudio'r gyfraith yn Bologna o 1323 hyd 1325. Daeth yn gyfeillgar a Giovanni Boccaccio. Yn 1326, wedi marwolaeth ei dad, dychwelodd i Avignon, lle parhaodd i astudio'r clasuron Lladin.

Er ei fod ef ei hun yn ystyried mai ei weithiau athronyddol mewn Lladin oedd ei weithiau pwysicaf, daeth yn enwog am ei gerddi mewn Eidaleg, y Canzoniere, yn enwedig ei gerddi serch i "Laura". Galwyd y soned Betrarchaidd ar ei ôl.

Gweithiau

  • Africa (arwrgerdd am Scipio Africanus)
  • De viris illustribus
  • Rerum memorandarum libri
  • Canzoniere