Melangell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
==Hanes a thraddodiad== |
==Hanes a thraddodiad== |
||
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]] Bu yn ferch i Eithne |
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]] Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]] iddi. |
||
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain. |
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld [[creirfa]] Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain. |
Fersiwn yn ôl 16:26, 14 Tachwedd 2017
Santes Gymreig o'r 6ed neu'r 7g oedd Melangell (Lladin: Monacella). Mae buchedd Ladin iddi, Historia Divae Monacellae, ar gael, yn dyddio o tua'r 15g. Ei dydd gŵyl yw 27 Mai.
Hanes a thraddodiad
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o Iwerddon Bu yn ferch i Eithne Wyddelles a Cyfwlch Addfwyn, perthynas i Elen o Gaernarfon. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i Bowys i fyw yn unig ym mhen uchaf dyffryn Afon Tanad. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai Brochwel Ysgithrog) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela ysgyfarnog, a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn Bennant Melangell iddi.
Daeth Melangell yn abades cymuned Cristnogol fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y Diwygiad Protestannaidd ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain.
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod a elwir "wyn bach Melangell" ym Maldwyn. Yn ail haner yr ugeinfed canrif, gyda diddordeb yn yr amgylchfyd yn tyfu daeth yn poblogaedd fel "nawddsantes" bywyd gwyllt yn cyfredinol.
-
Eglwys Pennant Melangell
-
Creirfa Melangell yn Eglwys Pennant Melangell
-
Arwydd: Pererindod Melangell
Llyfryddiaeth
Llyfrau i blant
- Eiry Palfrey, Melangell (Gwasg Gomer, 2005)
- Siân Lewis, Melangell: Ffrind y Sgwarnog, Cyfres Merched Cymru 6 (Gwasg Carreg Gwalch, 2012)